Newyddion S4C

Sioe drawiadol ar y Seine yn agor y Gemau Olympaidd ym Mharis

27/07/2024
Gemau Olympaidd 2024

Am y tro cyntaf yn hanes y Gemau Olympaidd, nid mewn stadiwm ond ger afon y cafodd y seremoni agoriadol ei chynnal nos Wener.

Cafodd sioe agoriadol Gemau Olympaidd Paris 2024 ei chynnal ger yr Afon Seine, gyda miloedd o athletwyr yn hwylio ar hyd yr afon enwog ym mhrifddinas Ffrainc.

Yn seremoni oedd bron i bedair awr o hyd, roedd perfformiadau gan y gantores Americanaidd Lady Gaga, yn ogystal â’r gantores Céline Dion ymhlith yr uchafbwyntiau ar y noson. 

Dyma oedd y tro cyntaf i Céline Dion ddychwelyd i’r llwyfan wedi iddi gael diagnosis o gyflwr niwrolegol prin yn 2021, sydd yn effeithio ar ei chyhyrau. 

Wrth gloi’r sioe agoriadol o’r Tŵr Eiffel, fe berfformiodd Dione gân Edith Piaf, L’Hymne A L’Amour. 

Fe berfformiodd Lady Gaga y gân Mon Truc En Plume

“Er nad ydw i’n artist o Ffrainc, dwi wastad wedi teimlo cysylltiad arbennig iawn gyda phobol Ffrainc ac yn canu cerddoriaeth Ffrengig,” meddai mewn neges ar X wedi’r perfformiad.

Dathlu

Nos Wener oedd y tro cyntaf iddi lawio yn ystod seremoni agoriadol Gemau Olympaidd yr haf ers 70 mlynedd. 

Ond ni chafodd y tywydd garw unrhyw effaith ar y dathliadau anhygoel. 

Roedd y pêl-droediwr Zinedine Zidane yn ffigwr canolog i’r dathliadau, gan ymddangos ar ddechrau a diwedd y sioe agoriadol. 

Wrth gloi’r sioe fe gafodd fideo ohono yn rhedeg drwy Baris gyda'r Ffagl Olympaidd ei dangos. 

Yn ddiweddarach fe basiodd Y Ffagl i Rafael Nadal, a wnaeth gamu i gwch gyda’r seren tennis Serena Williams, yr athletwr bydenwog Carl Lewis a’r cyn seren gymnasteg Nadia Comaneci. 

Hwyliodd yr enwogion ar hyd yr afon cyn pasio’r Ffagl i’r chwaraewr tennis Amelie Mauresmo. 

Fe ddaeth y daith i ben wedi i’r Ffagl gael ei throsglwyddo i’r athletwr judo Ffrengig Teddy Riner a’r rhedwraig Marie-Jose Perec wrth iddyn nhw danio’r Crochan Olympaidd y tu fewn i falŵn. 

Lluniau: Wochit; John Walton/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.