Newyddion S4C

Sioe Frenhinol: Angen 'newid agwedd' pobl at golomennod

Colomennod

Wrth i'r adran ddofednod ddychwelyd i Sioe Frenhinol Cymru eleni mae cystadleuwyr yn gobeithio "newid agwedd y cyhoedd" at golomennod.

Am y tro cyntaf ers 2019 mae'r adran ddofednod wedi dychwelyd i faes y sioe yn Llanelwedd eleni.

Y cynnydd mewn ffliw adar oedd y rheswm pam nad oedd adran dofednod yn y sioe yn y blynyddoedd diwethaf. Ond yn sgil codi cyfyngiadau mae wedi bod yn bosib i'r adar ddychwelyd eleni meddai Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol Aled Rhys Jones. 

Un sydd wedi bod yn cadw adar ers iddo fod yn saith oed yw Norman Hook.

Ag yntau bellach yn 72 oed, mae wrth ei fodd bod yr adran wedi dychwelyd eleni.

"Mae'n wych, ar ôl pum mlynedd mae'n hollol wych i'w gweld yn dychwelyd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dwi wedi bod yn gwneud hyn ers roeddwn i'n saith mlwydd oed. Dwi wedi ennill cwpl o dlysau ar hyd y blynyddoedd a dwy ers iddi ddychwelyd eleni, sydd ddim yn ffôl."

Image
Ardal ddofednod
Rhai o'r adar buddugol yn yr adran ddofednod yn y Sioe Frenhinol eleni.

'Mwy nag ar y stryd'

Mae dros 300 rhywogaeth o golomennod yn y byd.

Yn yr adran ddofednod eleni roedd dros 170 o adar o bob lliw a llun i'w gweld.

Mae Mr Hook eisiau newid delwedd colomennod ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.

"Mae pawb yn meddwl bod colomennod yw beth chi'n gweld ar y stryd yn unig, ond dydy e ddim.

"Mae e am newid agwedd pobl tuag at golomennod a trial cael y cyhoedd i weld faint o golomennod gwahanol sydd allan yna.

"Eleni mae dros 170 o adar yma. Hoffwn i weld y niferoedd yn parhau i godi ac i fwy o bobl i'w gweld. Mae'r torfeydd sydd wedi bod mewn yma eleni yn anhygoel."

Image
David Morris
David Morris gyda'i adar yn Llanelwedd.

Un o'r Bala sydd wedi cystadlu yn y Sioe Frenhinol eleni yw David Morris.

Mae cael cystadlu yn fraint iddo a'r sioe yn Llanelwedd yw'r uchafbwynt yn ei galendr, meddai.

"Mae o’n un peth i ddod i lawr ‘ma a dod i ddangos, ‘sdi unwaith y flwyddyn ‘da ni’n cael dod yma i sioe fel hyn a ma’n grêt i ddweud y gwir ‘de.

“Ma’ ‘na lot o fridiau weli di ddim o gwmpas, dim ond mewn sioe fel hyn y gweli di nhw a dweud y gwir.

“Tro cynta' i mi gystadlu yn y sioe yma oedd 1996, a fues i am gyfnod fel stiward yma, ond fel ti’n mynd yn hŷn mae’r job yn mynd yn galetach.

“Ti’n paratoi trwy’r flwyddyn, ma’ rhaid chdi gwatchad ar eu holau nhw, eu golchi nhw.

“I’r rhai sydd yn cystadlu, ti ddim yn cystadlu er mwyn cystadlu, ti’n cystadlu er mwyn ennill y wobr cynta’."

Image
Colomen
Mae adar o bob lliw a llun i'w gweld yn y Sioe

Pobl ifanc

Er bod 'na fwrlwm gyda'r adran yn dychwelyd eleni, mae pryder nad oes llawer o bobl ifanc yn cystadlu.

“Heb bobl ifanc, fydd ‘na ddim byd. Pan ti’n edrych heddiw, mae lot sy’n cystadlu ‘ma yn eu chwechdegau, s’nam digon o bobl ifanc yn dod i dewn ‘de," meddai Mr Morris.

“Mewn lle fel hyn, mae o fatha ffenest siop. Sbïa di wan ma’ ‘na blant i gyd ‘ma. Os ‘di plant i gyd yn dweud ‘yli mam a dad, ‘swn i’n licio cychwyn cadw adar, mae rhywun yn siŵr o helpu ‘de.

“Mae’n dipyn o job i gael pobl ifanc i ddod yma - dwi ‘di bod wrthi ers 1971, dwi ‘di cychwyn gyda thipyn go lew pan o’n i’n ifanc ac wedyn ma' nhw’n symud i rywbeth arall.

“Os nad ydy o yn y teulu, mae o’n dipyn o job."

Image
Colomen

Un dyn ifanc sydd wedi cystadlu eleni ydy Aled Bradbourn o Rydaman.

Yn 26 oed mae wedi bod yn cadw adar am 20 o flynyddoedd.

Mae'n obeithiol y bydd yr adran yn tyfu yn y dyfodol a bod eu gweld yn dychwelyd eleni ond yn cynyddu diddordeb yn y maes.

“Mae’n neis gweld yr adar ‘nôl yn y sioe, mae’n rhan mawr o galendr ni fel pobl sy’n dangos adar ffansi ac adar raso hefyd.

“Mae’n good chance i ddod a phawb at ei gilydd, cwrdd â ffrindiau bob blwyddyn.

“Fi’n credu yn sicr ma' chance bod hwn yn mynd i dyfu.

Image
Colomen

“Ma’ llai o adar yma eleni o gymharu gyda pump neu chwech mlynedd yn ôl. Fi’n credu ma’ pobl wedi bod bach yn skeptical am frido eu hadar achos so nhw’n gwybod os oes ‘na mynd i fod sioeau i fynd i.

“Ond mae hwn wedi dychwelyd nawr ac mae e’n bach fwy cyfforddus, pobl yn rhoi parau nôl yn y sheds a gewn ni weld lot fwy o adar ifanc yn y sioe blwyddyn nesa' fi'n credu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.