Andy Murray yn ymddeol ar ôl y Gemau Olympaidd
23/07/2024
Mae Andy Murray wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o fod yn chwarae tennis ar ôl cystadlu yn y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni.
Mae'r Albanwr 37 oed yn bwriadu cystadlu yn y gemau sengl a dwbl ym Mharis. Dyma fydd ei bumed Gemau Olympaidd.
Dywedodd ar X: "Wedi cyrraedd ar gyfer fy nhwrnamaint tennis olaf un. Mae cystadlu gyda Thîm y Deyrnas Unedig wastad wedi bod yr wythnosau mwyaf cofiadwy o fy ngyrfa a dw i'n falch iawn i allu gwneud eto am y tro olaf!"
Mae Murray wedi ennill cystadleuaeth y senglau yn Wimbledon ddwywaith a Phencampwriaeth Agored America yn ogystal â dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd.