Newyddion S4C

Ymdrechion i sicrhau twristiaeth gynaliadwy ym Mharc Eryri

22/07/2024

Ymdrechion i sicrhau twristiaeth gynaliadwy ym Mharc Eryri

Drwy niwl yr hen drên stêm, daw'r haf i'r fei er bosib bod o ddim yn teimlo felly o ran y tywydd.

Roedd hi'n ddigon prysur i'w weld ar droed yr Wyddfa ond ydy'r golygfeydd hyn yn dwyllodrus?

"Mae 'di bod yn iawn i ni.

"Mae'r seddau ni dal 'di lenwi ond mae'r ardal i'w gweld yn ddistawach.

"Mae'n lot i wneud hefo'r tywydd ond mae 'na bob tro bobl wrthi'n dringo'r Wyddfa.

"O ran bod ni 'di agor bach yn gynt eleni hefyd.

"Mae 'na rywbeth sy 'di distewi ond mae'n anodd rhoi bys ar be ydy o."

Mae'r wythnosau nesaf yn dyngedfennol i chi mewn ffordd.

"Y rhain ydy'r wythnosau pwysicach.

"Ni'n brysur anyway, ond ni bob tro eisiau mwy."

Ond nid dim ond ar drên ac ar droed y daw pobl yma i Eryri.

Trio osgoi golygfeydd fel y rhain mae Awdurdod Parc Eryri.

A Sherpa'r Wyddfa, y bysys gwennol sy'n cludo cerddwyr o'r meysydd parcio yn adnodd heb ei ail eleni.

"Mae 'di bod yn hynod o lwyddiannus.

"Cynnydd o 70% o bobl yn defnyddio'r bws y Sherpa'r Wyddfa dros y tair blynedd diwethaf."

Mae'n helpu i sicrhau bod pobl ddim yn parcio ac yn creu anghyfleustra.

"Mae pobl yn dod a ddim yn gwybod bod pobl yn byw ac yn gweithio yma.

"Felly, ni'n rili annog pobl i wneud ymchwil o flaen llaw."

A'r drefn i weld yn llwyddo.

Dyma'r daith welodd y cynnydd mwyaf mewn defnydd drwy'r DU y llynedd.

Mae'n rhan o ymdrechion yr awdurdod i sicrhau twristiaeth gynaliadwy.

"Thank you very much. Enjoy."

Ond i fusnesau'r ardal hon, ar brydiau, rhaid tyrchu i greu elw.

A bob diwrnod sydd i ddod yn bwysig.

"Ar y funud, dydy o ddim yn rhy brysur ond gall bod yn waeth.

"Gobeithio bod ni'n cael haf braf ond wnewn ni weld.

"Mae lot o tourists yn dechrau dŵad rŵan so mae'n pigo i fyny."

Pa mor dyngedfennol ydy'r wythnosau nesaf i chi fel busnes?

"Mae'n rili bwysig ond ni'n gwneud lot o wahanol events hefyd ond heb y bobl o gwmpas, dydy o ddim werth fod ar agor."

Er mae rŵan mae gwyliau'r haf yn dechrau i blant mae twristiaid wedi dod i'r ardal hon ers misoedd.

Mae busnesau'n deud bod nhw heb gweld hi mor heriol ers y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y sector yn hanfodol a'u bod nhw'n darparu pecyn cymorth eang i helpu busnesau.

Ond, gyda'r tymor newydd rŵan yn tanio bosib fydd hi'n daith go hir a throellog i sawl busnes yma sy'n gwneud eu gorau i gadw dau ben llinyn ynghyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.