Problemau Microsoft: Dau Gymro mewn 'sefyllfa devastating' wedi i'w taith awyren dramor gael ei chanslo
Mae dau Gymro o Gwm Cynon wedi dweud eu bod nhw'n “gutted” wedi i’w taith awyren dramor gael ei chanslo brynhawn Gwener o ganlyniad i broblemau TG byd-eang ar gyfrifiaduron Microsoft.
Roedd Luc Jones, 25 oed o Aberdâr a Connor Pavett, 24 oed o Hirwaun yn disgwyl hedfan o faes awyr Bryste brynhawn Gwener er mwyn treulio pum diwrnod yn Ibiza ar gyfer eu gwyliau haf.
Ond fe gafodd y pâr wybod fod eu hediad wedi’i ganslo ychydig o oriau yn unig cyn iddyn nhw hedfan o’r maes awyr.
“Mae’n sefyllfa devastating,” meddai Connor Pavett.
“’Dyn ni’n rili siomedig,” ychwanegodd Luc Jones.
Roedd y ffrindiau wedi derbyn e-bost gan gwmni Ryanair am 13.27 ddydd Gwener yn dweud bod eu hediad am 16.45 bellach wedi’i ganslo o ganlyniad i nam technegol rhyngwladol gan drydydd parti.
Roedd Ryanair wedi dweud yn yr e-bost hwnnw y bydd rhaid iddyn nhw geisio archebu sedd ar hediad gwahanol, neu wneud cais er mwyn cael ad-daliad, medden nhw.
Roedd Mr Jones a Mr Pavett yn teithio i faes awyr Bryste yn y car pan gafodd nhw wybod fod yr awyren wedi'i ganslo.
Maen nhw wedi dweud eu bod yn teimlo fel eu bod wedi’u gadael “heb arweiniad” wedi iddyn nhw dderbyn yr e-bost hwnnw.
Ymddiheuro
Mewn datganiad, dywedodd Ryanair eu bod wedi cael eu “gorfodi” i ganslo ychydig o hediadau oherwydd nam technegol gan drydydd parti.
Maen nhw wedi annog teithwyr na fydd yn teithio oddi yno i adael y maes awyr, ac wedi ymddiheuro yn “ddiffuant.”
“Mae teithwyr sydd wedi cael eu heffeithio wedi cael gwybod ac rydym yn argymell eu bod nhw'n mewngofnodi i’w cyfrif myRyanair unwaith y mae’r system wedi’i drwsio er mwyn gweld eu hopsiynau," medden nhw.
“Rydym yn gweithio'n galed i leihau unrhyw aflonyddwch ac rydym am barhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’m teithwyr.”
‘Dim sicrwydd’
Bellach, mae'r ffrindiau wedi archebu seddi ar hediad gwahanol o faes awyr Birmingham gyda chwmni Jet2.
Roedden nhw'n pryderu na fydden nhw'n llwyddo gwneud oherwydd roedd rhaid iddyn nhw brynu’r tocynnau yn y maes awyr.
“Gan fod e’n bum awr cyn yr hediad, ‘dyn ni m’ond yn gallu prynu’r tocynnau yn y maes awyr,” esboniodd Connor Pavett yn gynharach.
Dywedodd Luc Jones doedd "dim sicrwydd" y bydden nhw'n llwyddo gwneud oherwydd roedd posibilrwydd y byddai hediad Jet2 o Firmingham i Ibiza am 17.05 eisoes wedi cael ei lenwi gan "yr holl hediadau eraill sydd wedi’u canslo."