Sir Fynwy: Gyrrwr beic modur 27 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad
Mae gyrrwr beic modur 27 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad ger pentref Magwyr yn Sir Fynwy ddydd Gwener.
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi’r gwrthdrawiad ar yr A4810 rhwng Bragdy Magwyr ac ystâd ddiwydiannol Europarks.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng lori gymalog Mercedes a beic modur Kawasaki arian rhwng hanner nos a 0.30 y bore.
Fe wnaeth parafeddygon Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gadarnhau yn y fan a’r lle fod y beiciwr, dyn 27 oed, wedi marw.
Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.
“Rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu unrhyw fodurwyr gyda lluniau camera dashfwrdd a oedd yn defnyddio’r A4810 ger Magwyr ar y pryd i gysylltu â ni,” meddai Heddlu Gwent.
Gallwch gysylltu drwy eu gwefan, drwy ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu cyfeirnod 2400239698 gydag unrhyw fanylion.