Dyn 65 oed wedi marw ar ôl digwyddiad gyda beic cwad yn Llanilar
18/07/2024
Mae dyn 65 oed wedi marw ar ôl digwyddiad gyda beic cwad amaethyddol yng Ngheredigion.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi cael eu galw wedi adroddiad o ddigwyddiad yn ymwneud â beic cwad mewn cae yn ardal Llanilar ger Aberystwyth nos Fercher.
Bu farw dyn 65 oed yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r crwner a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod.