Ymchwiliad Covid: Llywodraethau Cymru a’r DU wedi ‘methu eu dinasyddion’
Ymchwiliad Covid: Llywodraethau Cymru a’r DU wedi ‘methu eu dinasyddion’
Fe wnaeth llywodraethau Cymru, y DU a'r gwledydd datganoledig eraill “fethu eu dinasyddion” yn ystod pandemig Covid-19, meddai adroddiad.
Dywedodd cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, y Farwnes Heather Hallett, bod angen “diwygio sylfaenol” yn y ffordd y mae’r DU yn paratoi ar gyfer pandemigau yn y dyfodol.
Roedd ymateb llywodraeth Cymru i’r pandemig Covid wedi’i “rhwystro gan gymhlethdod gormodol,”meddai'r adroddiad a ddisgrifiodd eu systemau fel "drysfa".
"Rhaid cael diwygio radical," meddai. "Ni ellir byth eto ganiatáu i afiechyd arwain at gynifer o farwolaethau a chymaint o ddioddefaint."
Tynnodd y Farwnes Heather Hallett sylw at nifer o “ddiffygion sylweddol” mewn parodrwydd ar gyfer pandemig.
"Nid yw'r Ymchwiliad yn petruso o gwbl wrth ddod i'r casgliad bod prosesau, cynllunio a pholisi'r strwythurau wrth gefn sifil o fewn llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig a'r gwasanaethau sifil wedi methu eu dinasyddion," meddai.
Dywedodd adroddiad Ymchwiliad fod y system o adeiladu parodrwydd ar gyfer y pandemig yn dioddef o sawl diffyg sylweddol, gan gynnwys bod y DU wedi "paratoi ar gyfer y pandemig anghywir".
"Roedd y risg sylweddol o bandemig ffliw wedi cael ei ystyried ers tro byd, ei ysgrifennu amdano a chynllunio ar ei gyfer. Fodd bynnag, roedd y parodrwydd hwnnw'n annigonol ar gyfer pandemig byd-eang o'r math a darodd," meddai.
"Yn y blynyddoedd cyn y pandemig, roedd diffyg arweinyddiaeth, cydlyniad a goruchwyliaeth ddigonol.
"Ni chyflwynwyd ystod ddigon eang o farn wyddonol a dewisiadau polisi i weinidogion, nad ydynt yn aml wedi’u hyfforddi ym maes arbenigol argyfyngau sifil, ac ni wnaethant herio’n ddigonol y cyngor a gawsant gan swyddogion a chynghorwyr.
"Nid oedd gan gynghorwyr a grwpiau cynghori ddigon o ryddid ac ymreolaeth i fynegi safbwyntiau anghydnaws ac roeddent yn dioddef o ddiffyg goruchwyliaeth a her allanol sylweddol. Roedd y cyngor yn aml yn cael ei danseilio gan 'groupthink'."
Ymateb
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething AS ei fod yn "croesawu" yr adroddiad ac y bydd Llywodraeth Cymru "yn ymateb yn llawn i’r Ymchwiliad mewn perthynas â phob un o’r argymhellion".
"Rydym yn croesawu argymhellion yr Adroddiad ac edrychwn ymlaen at gydweithio mewn partneriaeth gyfartal â Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig eraill wrth ymateb iddynt," meddai.
"Rydym wedi bod yn ymrwymedig bob amser i weithio’n agored ac mewn modd adeiladol gyda llywodraethau eraill y DU ac rydym yn awyddus i adeiladu ar hyn mewn ymateb i’r adroddiad.
"Bydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 y Senedd yn awr yn craffu ar yr adroddiad. Bydd yn cyflwyno i’r Senedd, drwy gynnig, unrhyw fylchau a nodwyd yn adroddiad yr Ymchwiliad i’r parodrwydd ar gyfer y pandemig ac i’r ymateb y mae’n credu y dylid ymchwilio iddynt ymhellach."
Wrth ymateb dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer fod adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU yn cadarnhau “nad oedd y DU wedi paratoi’n ddigonol ar gyfer Covid-19” a bod eu polisiau “wedi methu dinasyddion y DU”.
Dywedodd y Prif Weinidog mewn datganiad: “Bydd yr atgofion a ddaeth yn sgil yr ymchwiliad yn anodd iawn i lawer o bobl. Mae fy nghydymdeimlad dwysaf â phawb a gollodd anwyliaid yn ystod y cyfnod hwnnw."
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “"Mae hwn yn adroddiad damniol sy'n datgelu methiannau difrifol a sylweddol ar ran Llywodraeth Lafur Cymru.
"Bydd yr adroddiad yn gwneud darllen yn anodd i deuluoedd mewn profedigaeth Covid, ac mae ein meddyliau gyda nhw heddiw.
"Dylai Llywodraeth Cymru nid yn unig gyfaddef i'w methiannau sylweddol ond ymrwymo i weithredu argymhellion modiwl 1 yn llawn gyda chynllun manwl i sicrhau na fydd Cymru fyth mor amharod ar gyfer pandemig eto."
Dywedodd arweinydd Ceidwadyr Cymru, Andrew RT Davies: “Mae’n hollol amlwg o’r adroddiad hwn fod gweinidogion Llafur allan o’u dyfnder ac nad oedd ganddyn nhw unrhyw syniad o barodrwydd Cymru ar gyfer pandemig.
“Mae ymchwiliad Covid benodol i Gymru i gywiro’r gwallau amlwg hyn.”
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig “gydweithio i ddatblygu dull newydd o asesu risg” pandemigau posib.
Mae'r argymhellion yn yr adroddiad yn cynnwys:
- Symleiddiad radical o'r systemau parodrwydd a gwydnwch ar gyfer argyfwng sifil. Mae hyn yn cynnwys rhesymoli a symleiddio’r fiwrocratiaeth bresennol a darparu strwythurau ac arweiniad gweinidogaethol a swyddogol gwell a symlach.
- Dull newydd o asesu risg sy’n darparu ar gyfer gwerthusiad gwell a mwy cynhwysfawr o ystod ehangach o risgiau gwirioneddol.
- Dull newydd ar gyfer y DU gyfan o ddatblygu strategaeth, sy’n dysgu gwersi o’r gorffennol ac o ymarferion brys sifil rheolaidd, ac sy’n rhoi ystyriaeth briodol i anghydraddoldebau a gwendidau presennol.
- Gwell systemau casglu a rhannu data cyn pandemigau yn y dyfodol, a chomisiynu ystod ehangach o brosiectau ymchwil.
- Cynnal ymarfer ymateb pandemig ledled y DU o leiaf bob tair blynedd a chyhoeddi’r canlyniad.
- Dod ag arbenigedd allanol o’r tu allan i’r llywodraeth a’r Gwasanaeth Sifil i mewn i herio a gwarchod rhag problem hysbys meddwl grŵp.
- Cyhoeddi adroddiadau rheolaidd ar y system parodrwydd a gwydnwch ar gyfer argyfwng sifil.
- Yn olaf ac yn bwysicaf oll, creu un corff statudol annibynnol i fod yn gyfrifol am barodrwydd ac ymateb system gyfan. Bydd yn ymgynghori’n eang, er enghraifft ag arbenigwyr ym maes parodrwydd a gwydnwch, a’r sector gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, ac yn rhoi cyngor strategol i’r llywodraeth ac yn gwneud argymhellion.
Lleisiau
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys lleisiau'r rheini sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig.
Un o'r rheini yw Anna-Louise Marsh-Rees, cyd-arweinydd Teuluoedd dros Gyfiawnder Cymru mewn Profedigaeth Covid-19.
Mae wedi ei dyfynnu yn yr adroddiad yn dweud: “Rhywbeth na chafodd ei gyfleu i ni oedd unwaith y bydd rhywun â Covid yn marw, maen nhw bron yn cael eu trin fel gwastraff gwenwynig.
"Maen nhw wedi'u sipio i ffwrdd a chi - ni ddywedodd neb wrthym na allwch eu golchi, na allwch eu gwisgo, na allwch wneud unrhyw un o'r pethau hynny, yr angladdau, y seremonïau, ni allwch wneud yr un o'r rhain. Ni allech ganu mewn angladd.
"Ti'n gwybod, rydyn ni'n Gymry, mae hynny'n rhywbeth mae'n rhaid i chi ei wneud... ni chafodd fy nhad farwolaeth dda. Ni chafodd y rhan fwyaf o anwyliaid ein haelodau farwolaeth dda... pan adawon ni'r ysbyty, fy nhad, cawsom stwff fy nhad mewn bag siopa Tesco.
"Roedd rhai pobl yn cael dillad rhywun arall a oedd mewn cyflwr eithaf ofnadwy.
"Y pethau hynny fel yna nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn aml... mae yna'r fath beth â marwolaeth dda, ac rydw i'n meddwl bod hynny wedi'i anwybyddu'n fawr yn ystod y pandemig.
"Wyddoch chi, mae mam yn crio'n ddyddiol ac – er ei bod bron i dair blynedd... dim ond – maen nhw'n cael y teimlad yna o neb yn malio.”