Newyddion S4C

'Pryder' am y neges y mae'r modd y cafodd Vaughan Gething ei drin yn ei hanfon at bobl o liw

ITV Cymru 17/07/2024
Ken Skates

Mae aelod o gabinet Llywodraeth Cymru wedi yn dweud bod ymddiswyddiad Vaughan Gething yn anfon neges bryderus at bobl o liw yng Nghymru.

Dywedodd Ken Skates wrth Sharp End, cynhyrchiad gan ITV Cymru Wales, fod llawer o bobl o leiafrifoedd ethnig eisoes wedi cysylltu ag e wedi i Mr Gething roi'r gorau i’w rôl fel Prif Weinidog.

Fe wnaeth Mr Gething gyhoeddi y byddai'n ymddiswyddo ddydd Mawrth. 16 Gorffennaf ar ôl i bedwar aelod o'i lywodraeth gamu lawr mewn protest yn erbyn ei arweinyddiaeth.

Ym mis Mawrth, Vaughan Gethin oedd yr arweinydd du cyntaf ar unrhyw wlad Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Dwi’n poeni am y neges y mae’r digwyddiadau yn ei hanfon at bobl o liw yng Nghymru, ond hefyd yr hyn mae’n ei anfon i’r byd.

"Gall hiliaeth fod yn ymwybodol, gall fod yn isymwybodol. Weithiau dyw unigolion na grwpiau yn sylwi ar dueddiadau hiliol."

'Pwerus'

Fe wnaeth e bwysleisio nad oedd "yn arbenigwr" ar hiliaeth, ond roedd e’n credu y byddai angen cynnal asesiad "gwrthrychol" o driniaeth Mr Gething.

“Dwi’n ofni efallai fod digwyddiadau [dydd Mawrth] wedi ansefydlogi cyfran o’r boblogaeth oedd angen y cymorth mwyaf gennym ni i wneud yn siŵr eu bod yn teimlo’n rhan o Gymru yn yr 21ain ganrif," meddai.

“Dwi’n meddwl bod rhai o’r sylwadau wnaeth Vaughan yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog yn anhygoel o bwerus yn hynny o beth.”

Ychwanegodd: “Cawsom sylwadau gan bwyllgor BAME Llafur ynglŷn â thriniaeth Vaughan a dwi wedi cael llawer o bobl hefyd yn cysylltu â mi yn codi pryderon.

"Mae bron pob un o'r bobl wnaeth gysylltu â mi gyda'r pryderon hynny o leiafrifoedd ethnig. Ac, felly, mae p’un ai bod yna elfen o hiliaeth wedi codi yn llai pwysig na sut mae'r bobl sydd ddim yn wyn yn teimlo ar hyn o bryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.