Newyddion S4C

Conwy: Dyn 57 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o glwyfo heddwas gyda bwyell

18/07/2024
Castell Cyfarthfa

Mae dyn 57 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chlwyfo yng Nghonwy.

Cafodd heddwas ei glwyfo gyda bwyell mewn digwyddiad mewn eiddo preswyl yn Nwygyfylchi ddydd Mercher a chafodd anaf i'w law.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad toc cyn 15:30 ddydd Mercher.

Roedd y llu wedi cynnal "ymgyrch blismona" a oedd yn cynnwys swyddogion arfog er mwyn arestio'r dyn yn ddiogel.

Roedd fyrdd wedi eu cau rhwystrau wedi eu gosod gan swyddogion yn ogystal, wrth i'r heddlu ‘ddiogelu’r lleoliad’.

Am 21.08, fe aeth swyddogion i mewn i'r eiddo a chafodd dyn 57 oed ei arestio ar amheuaeth o glwyfo.

"Rydym yn cydnabod y bydd pryder ac aflonyddwch wedi'u hachosi o ganlyniad i'r ymgyrch hon ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chefnogaeth y gymuned leol wrth i ni ymdrin â'r digwyddiad hwn."

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.