Araith y Brenin: Addo sefydlu ‘Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau’
Mae araith y Brenin eleni wedi addo sefydlu cyngor newydd a fydd yn cynnwys llywodraethau datganoledig y DU, gan gynnwys Cymru, fel eu bod yn cydweithio’n well.
Bydd Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau yn gorff a fydd yn dod â Phrif Weinidog y DU, Prif Weinidogion Cymru a’r Alban, Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, a Meiri Awdurdodau Cyfunol Lloegr ynghyd.
Daw'r addewid fel rhan o araith flynyddol y Brenin yn San Steffan a fydd, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur Keir Starmer, yn “cymryd y brêcs oddi ar Brydain”.
Wrth draddodi'r araith yn San Steffan, dywedodd y Brenin: “Bydd fy Llywodraeth yn cryfhau ei gwaith gyda’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i ddinasyddion ar draws y Deyrnas Unedig.
“Bydd fy ngweinidogion yn sefydlu Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau newydd i sicrhau bod cyfleoedd i Brif Weinidog y DU, penaethiaid llywodraethau datganoledig a meiri awdurdodau cyfun i gydweithio â’i gilydd.”
‘Sbardun’
Fe wnaeth y llywodraeth hefyd addo gwladoli rheilffyrdd ac adeiladu rhagor o dai - materion sydd eisoes wedi eu datganoli i Gymru.
Roedd yr araith yn addo rhagor o ddatganoli, ond ar gyfer rhanbarthau Lloegr yn unig.
Dywedodd y Brenin fod “fy Llywodraeth yn credu bod mwy o ddatganoli penderfyniadau wrth wraidd economi ddeinamig fodern a’i fod yn sbardun allweddol i dwf economaidd".
“Bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i roi pwerau newydd i feiri metro ac awdurdodau lleol cyfun," meddai.
"Bydd hyn yn cefnogi cynlluniau twf lleol sy'n dod â budd economaidd i gymunedau.”
Addewidion eraill
Ymysg addewidion eraill araith y Brenin roedd:
- Atal gwerthu cynnyrch tybaco i unrhyw un sy'n troi'n 15 oed neu'n iau yn 2024, am byth.
- Gwaharddiad ar therapi trosi (conversion therapy).
- Bydd rhaid i ysgolion preifat dalu TAW ar ffioedd - mae'r llywodraeth yn gobeithio y bydd hyn yn ariannu 6,500 o athrawon newydd.
- Diwygio Tŷ'r Arglwyddi gan gynnwys dileu hawl arglwyddi etifeddol i eistedd yno.
- Sefydlu corff annibynol i reoli pêl-droed.
Ymateb
Wrth ymateb i araith y Brenin dywedodd Plaid Cymru ei fod yn "amlwg bod Llafur yn hapus i barhau i ddal Cymru yn ôl".
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, bod Llywodraeth y DU wedi gosod cynlluniau i gryfhau datganoli yn Lloegr yn unig.
"Ac eto, ni chynigiodd ragor o bwerau i Gymru. Mae'n ymddangos bod Llafur yn hapus i barhau i ddal Cymru yn ôl.
“Doedd dim addewid i ddatganoli Ystad y Goron, sydd wedi’i ddatganoli i’r Alban ers 2017, a fyddai’n gallu sicrhau bod yr elw o ynni yn llifo i gymunedau Cymru.
"Nid oedd unrhyw sôn ychwaith am system cyfiawnder troseddol Cymru er i Lywodraeth Lafur Cymru gefnogi datganoli hynny ers blynyddoedd."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething ei fod yn "ddechreuad i gyfnod newydd o bartneriaeth".
“Mae Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig wedi gweithio’n gyflym i osod eu rhaglen uchelgeisiol. Byddwn yn awr yn ystyried y manylion ac yn parhau i drafod â gweinidogion y DU.
“Y bore ma, cwrddais i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Chyfansoddiad gydag Arweinydd y Tŷ ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i drafod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU.
“Roedd y cyfarfodydd yn gyfle i gael trafodaeth gynnes a chadarnhaol, gan ddangos parch at ein tirwedd ddatganoledig ac awydd gwirioneddol i gydweithio.
“Mae Llywodraeth newydd y DU a’u rhaglen yn nodi ailosod yn y berthynas, ac mae hyn i’w groesawu. Mae’n ddechreuad i gyfnod newydd o bartneriaeth, gyda dwy lywodraeth yn cydweithio ar weledigaeth a rennir rhyngddynt ar gyfer dyfodol Cymru.”
Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens: “Mae ein rhaglen lywodraethu yn feiddgar ac uchelgeisiol a bydd yn sicrhau’r newid sydd ei angen ar Gymru a’r DU.
“Bydd y mesurau a gyhoeddwyd yn Araith y Brenin yn sicrhau twf a swyddi, cymryd ein strydoedd yn ôl, sefydlu GB Energy i dorri biliau pobl a chreu Cronfa Cyfoeth Genedlaethol i fuddsoddi yn niwydiannau’r dyfodol.
“Mae’r llywodraeth newydd eisoes wedi dangos ei chefnogaeth glir dros gynhyrchu dur yng Nghymru ac mae wedi gweithredu i ailosod y berthynas gyda’r llywodraethau datganoledig.
“Mae Araith y Brenin heddiw yn dangos y byddwn yn cyflawni yn gyflym ar ein mandad dros newid.”
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey fod y wlad yn wynebu "heriau enfawr" ar ôl "blynyddoedd o argyfwng ac anhrefn" o dan y Blaid Geidwadol.
"Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn craffu’n ofalus ar gynlluniau’r Llywodraeth, gan ymdrechu’n galed i sefyll dros ein hetholwyr," meddai.