Dymchwel deunydd coelcerth anferth yng Ngogledd Iwerddon

Belfast Telegraph 05/07/2021
Coelcerth yng Ngogledd Iwerddon
NS4C

Mae'r awdurdodau yng Ngogledd Iwerddon wedi dymchwel deunydd coelcerth anferth oedd wedi ei adeiladu yn Larne gan y gymuned Unoliaethol yno.

Cafodd y deunydd - cannoedd o baledi pren - ei ostwng gan fod pryderon y gallai'r goelcerth beryglu adeiladau cyfagos.

Caiff coelcerthi anferth eu llosgi ar noson 11 Gorffennaf bob blwyddyn ymysg cymunedau Unoliaethol yn y dalaith, er mwyn nodi buddugoliaeth y Brenin William ym Mrwydr y Boyne yn 1690.

Mae tanio'r coelcerthi yn cael ei weld fel gweithred ymfflamychol ymysg cymunedau gweriniaethol y dalaith, sydd yn gwrthwynebu eu symboliaeth.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: Pwyllgor Coelcerth Larne

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.