Newyddion S4C

Cynlluniau i adeiladu stiwdio gerddoriaeth a chanolfan gelfyddydau ger Tŷ Newydd

15/07/2024
ty newydd.png

Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd er mwyn datblygu safle ger Tŷ Newydd yng Ngwynedd. 

Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ger Criccieth ydy Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. 

Cafodd y cyn-brif weinidog David Lloyd George ei fagu yno, ac fe aeth ymlaen i fyw yno ar ôl ymddeol a bu farw yno hefyd ym 1945. 

Mae'r cais yn galw i ddatblygu stiwdio gerddoriaeth a chanolfan gelfyddydau ar y safle, sydd ar hyn o bryd yn gartref i storfa.

Cafodd y prif dŷ ei droi i fod yn Ganolfan Ysgrifennu ym 1990 ac mae bellach yn cael ei rhedeg gan Lenyddiaeth Cymru. 

Mae’r ganolfan yn cael ei hystyried yn “sefydliad llenyddol o bwysigrwydd cenedlaethol”.
 
Mae’r ganolfan wedi bod yn cynnal cyrsiau ysgrifennu a phreswyliadau, fel “lloches greadigol i genedlaethau o lenorion a beirdd enwocaf Cymru,” yn ôl y ddogfen ar gyfer adeiladu'r stiwdio. 
 
Mae cais cynllunio yn datgan mai ei fwriad ydy "creu stiwdio gerddoriaeth a chanolfan gelfyddydol unigryw sy'n darparu stiwdio gerddoriaeth acwstig ac electronig bwrpasol a gofod celfyddydau creadigol”. 
 

Mae'n gobeithio cynnig llety ar gyfer bobl sy'n defnyddio'r stiwdio ac yn cynnwys gofod unigryw ar gyfer ysgrifennu, ymarfer a recordio cerddoriaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.