Dyn 20 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Ninas Powys
Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad car ym Mro Morgannwg.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Ffordd y Barri yn Ninas Powys tua 03.50 fore Sul, i ymateb i wrthdrawiad.
Car Ford Fiesta llwyd oedd yr unig gerbyd ynghlwm â'r digwyddiad.
Roedd dyn 20 oed wedi marw yn y lleoliad.
Cafodd menyw 21 oed o'r Barri a menyw 18 oed o Ddinas Powys eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd fel rhagofal.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r amgylchiadau a wnaeth arwain at y gwrthdrawiad.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad, unrhyw un â lluniau dash-cam neu unrhyw un a welodd y modd yr oedd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu gyda ni gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400233554."
Llun: Google Maps