Benjamin Netanyahu 'ddim yn sicr' a gafodd arweinydd Hamas ei ladd mewn streic ar ardal ddyngarol
Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi dweud nad yw'n sicr a gafodd arweinydd Hamas ei ladd mewn streic awyr yn Gaza.
Mae 141 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd mewn streiciau awyr gan Israel ers ddydd Sadwrn, yn ôl gweinidogaeth iechyd Gaza, sy'n cael ei rhedeg gan Hamas.
Cafodd mwy na 400 o bobl eu hanafu yn yr ymosodiadau, yn ôl datganiad gan y weinidogaeth iechyd.
Fe darodd un o’r streiciau awyr barth dyngarol yn ardal al-Mawasi ger dinas Khan Younis.
Dywedodd Byddin Israel bod y streic wedi targedu Mohammed Deif, sydd yn arwain adain filwrol y grŵp.
Cafodd Rafa Salama, sef rheolwr Hamas yn Khan Younis, hefyd ei dargedu, yn ôl llefarydd ar ran yr Israel Defense Forces (IDF).
“Y naill ffordd neu’r llall, fe fyddwn ni’n cyrraedd holl arweinyddiaeth Hamas,” meddai Mr Netanyahu wrth gynhadledd newyddion.
Ychwanegodd y Prif Weinidog y byddai’r siawns o gytundeb i ddychwelyd gwystlon Israel yn cael ei wella trwy gynyddu pwysau milwrol ar Hamas.
Dywedodd Byddin Israel fod y streic wedi taro ardal filwrol ond dywedodd na allai gadarnhau'r nifer o bobl a gafodd eu hanafu.