Newyddion S4C

Pryderon am ddifyg gofalwyr di-dal i bobl â dementia

12/07/2024

Pryderon am ddifyg gofalwyr di-dal i bobl â dementia

Mae Ann Thomas o Sanclêr yn 81 oed ac wedi cael diagnosis o dementia. Mae'r gofal mae hi'n ei dderbyn yn ei chartref yn bwysig iddi fel i filoedd o gleifion eraill tebyg iddi.

"Mae e werth y byd."

Mae gofal yn gallu helpu i gadw rhai pobl allan o'r ysbyty ac yn galluogi eraill i fynd adref yn gynt ac yn ddiogel.

"Oni bai am y rhain, byddwn i'n ddiflas ofnadwy achos wi'n ffaelu neud dim byd i'n hunan. Fi'n gallu copo, pethau dydd i ddydd ond bydden i'n ffili clywed beth o'n i 'di gweud na cofio beth bydden i 'di neud. Mae'n rhaid i fi gael hi."

Mae galw mawr ar waith y gofalwyr a phwysau ar wasanaethau. Mae cynllun a gychwynnodd yn Sir Benfro wedi ehangu i Sir Gar. Mae'n helpu pobl i sefydlu busnesau gofal neu gymorth ei hunain.

"Rydw i'n browd o fod yn broffesiynol. Rwy'n browd o'r gwaith fi'n gwneud. Rwy'n credu mae'n vital i bobl fel Ann."

"Mae galw am gynlluniau tebyg fel bod y broses o ofalu yn ataliol. Byddai hynny'n ysgafnhau'r baich ar y Gwasanaeth Iechyd a helpu cadw pobl yn eu cartrefi.

"Mae buddsoddiad bach mewn gwaith ataliol yn y gymuned er enghraifft wrth gynnal gofalwyr a rhoi cymorth iddyn nhw fel bod nhw'n gallu cynnal eu hunain i ofalu am y person maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.

"Mae hwnna'n fuddsoddiad hirdymor sy'n atal rhagor o arian."

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwaith diflino a hanfodol mae gofalwyr di-dal yn eu gwneud. Mae'n dweud bod £1 miliwn ar gael bob blwyddyn trwy fyrddau partneriaeth i gefnogi gofalwyr di-dal.

Maen nhw hefyd yn cydweithio gyda'r partneriaid i sicrhau bod 'na wasanaethau safonol ar gael yn y gymuned.

Y nod yw cadw pobl oedrannus yn iach fel bod dim angen ymweliadau ysbyty.

Ond, yn Sanclêr, mae 'na boeni o hyd bod rhai yn cael eu gadael ar ôl.

"Dw i'n lwcus achos mae helpers 'da fi, maen nhw yn helpu ond mae un ffrind 'da fi, so hi'n gweld neb a mae'n anodd."

Mae Ann yn canmol ei gofal gan deulu a gofalwyr ond mae'n galw am sicrhau bod trefniadau gofal yn gyson i bawb ar hyd a lled Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.