Newyddion S4C

Ymchwiliad llofruddiaeth Llanelli: Teyrnged teulu i fenyw fu farw

11/07/2024
Sophie Evans

Mae teulu menyw a fu farw wedi digwyddiad yn Llanelli wedi rhoi teyrnged iddi gan ddweud ei bod yn “brydferth ym mhob ffordd”.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad ddydd Gwener ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu bod swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu Sophie Evans, oedd yn 30 oed.

Dywedodd ei theulu: “Cafodd ein chwaer a’n merch hardd a rhyfeddol Sophie ei chymryd oddi arnom ni mewn amgylchiadau trasig, ac ni fydd ein bywydau byth yr un fath.

“Rydym wedi torri ein calonnau. Fe fyddwn ni i gyd yn gweld eisiau Sophie oedd mor ifanc.

“Roedd hi’n fam oedd yn caru ei dwy ferch â’i holl galon. Chwaer anhygoel, a oedd yn graig ein teulu. Mor llachar a doniol, bob amser yn gwneud i ni chwerthin.

“Roedd Sophie yn ferch gariadus, gyda chalon enfawr, yr oeddem ni i gyd yn ei charu."

Ychwanegodd datganiad y teulu: “Roedd hi’n byw bywyd i’r eithaf, a bydd yn cael ei chofio am fod mor garedig a gofalgar tuag at ei theulu a’i ffrindiau.

“Roedd Sophie wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i phlant a’i theulu. Roedd ganddi angerdd am therapi harddwch, ac roedd yn mwynhau cadw’n ffit a’r tueddiadau ffasiwn diweddaraf.

“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar yr adeg erchyll hon. Mae wedi golygu llawer i'r teulu cyfan.

“Hoffem nawr gael amser i alaru, a gofynnwn am gael preifatrwydd i wneud hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.