Newyddion S4C

Biliau cwsmeriaid Dŵr Cymru i fynd i fyny £137

11/07/2024
Dwr

Bydd biliau cwsmeriaid Dŵr Cymru yn mynd i fyny £137 dros gyfnod o bum mlynedd dan gynnig drafft gan y rheoleiddiwr Ofwat.

£19 ar gyfartaledd fydd y cynnydd mewn biliau bob blwyddyn sydd wedi ei ganiatáu gan Ofwat ond mae yna wahaniaethau sylweddol rhwng y cwmnïau.

Mae Dŵr Cymru yn darparu dŵr ar gyfer y mwyafrif o gwsmeriaid Cymru, gyda chwmni Hafren Dyfrdwy yn gwasanaethu nifer llawer yn llai.

Daw’r cynnydd wedi i Ofwat ofyn i gwmnïau fynd i’r afael â gollyngiadau llygredd i’r môr ac afonydd ac i adnewyddu hen bibau i atal gollwng dŵr.

Dywedodd prif weithredwr Ofwat, David Black: “Mae cwsmeriaid eisiau gweld newid radical yn y ffordd mae cwmnïau dŵr yn gofalu am yr amgylchedd. 

“Mae ein penderfyniadau drafft yn cymeradwyo cynlluniau cwmnïau i dreblu eu buddsoddiad mewn gwelliannau i wasanaeth a'r amgylchedd a hynny am bris teg i gwsmeriaid.

“Nod y cynigion hyn yw sicrhau gostyngiad o 44% mewn gollyngiadau o orlifiadau storm o gymharu â’r lefelau yn 2021. 

“Gadewch i mi fod yn glir iawn i’r cwmnïau dŵr – byddwn yn craffu’n fanwl i sicrhau bod eu cynlluniau yn dwyn ffrwyth.”

Ofwat sy’n gosod yr uchafswm ond cwmnïau sy’n penderfynu ar y gost derfynol.

Bydd cwsmeriaid cwmni dŵr Affinity sy’n gwasanaethu Llundain a de ddwyrain Lloegr yn gweld cynnydd o £11 yn unig.

Bydd biliau cwsmeriaid SES, sy’n gwasanaethu'r un ardal, yn gostwng £34 o gymharu â’r pum mlynedd flaenorol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.