Newyddion S4C

Opioidau yn cyfrannu at fwy o farwolaethau yng Nghymru nag unrhyw sylwedd arall

11/07/2024
Opioid

Mae opioidau wedi cyfrannu at fwy o farwolaethau yng Nghymru'r llynedd nag unrhyw sylwedd arall, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Bu 125 o farwolaethau opioid, 64 yn ymwneud â heroin neu forffin ac roedd y 61 marwolaeth arall yn ymwneud ag o leiaf un opioid arall megis methadon, codin neu tramadol. 

Bu cynnydd mawr hefyd yn nifer y marwolaethau yn ymwneud â chocên dros y tair blynedd diwethaf, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddodd y ffigyrau blynyddol. 

Rick Lines yw Pennaeth y Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd bod “nifer y marwolaethau o achosion yn ymwneud â chyffuriau yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel yng Nghymru”. 

“Mae'r marwolaethau hyn yn drasig ac yn rhai y gellir eu hatal ac maent yn effeithio ar deuluoedd a chymunedau ledled y wlad,” meddai.

Ers 2003, mae Cymru wedi cynnal cyfradd uwch o farwolaethau camddefnyddio cyffuriau na Lloegr, ac eithrio tair blynedd (2004, 2014 a 2020).

Yng Nghymru, roedd 71 o farwolaethau cyffuriau fesul miliwn o'r boblogaeth yn 2022. Cyfraddau Lloegr yn 2022 oedd 53 fesul miliwn o’r boblogaeth. 

Mae cyfraddau marwolaethau camddefnyddio cyffuriau wedi cynyddu yn y ddwy wlad dros y ddau ddegawd diwethaf. 

Lle yng Nghymru

Roedd marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau dros bum gwaith yn uwch ymhlith y rhai sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r 20% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. 

Yr awdurdod lleol â'r cyfraddau uchaf yn 2022 oedd Abertawe (14.3 o farwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth), a Chastell-nedd Port Talbot (13.3 o farwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth).

Gwelwyd y cyfraddau isaf yn Sir Fynwy (2.3 marwolaeth fesul 100,000 o'r boblogaeth), Sir y Fflint (2.8 marwolaeth fesul 100,000 o'r boblogaeth) a Sir Gaerfyrddin (3.1 marwolaeth fesul 100,000 o'r boblogaeth). 

‘Achub bywyd’

Mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn cario Naloxone, cyffur achub bywyd a all wrthdroi effeithiau gwenwyno opioid, meddai. 

Defnyddiwyd Naloxone mewn 303 o achosion o orddos yng Nghymru y llynedd, gan helpu i atal llawer o farwolaethau. 

Mae nifer y bobl sy'n cario Naloxone gyda nhw wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers iddo gael ei gyflwyno’n gyntaf yn 2009. 

Yn y flwyddyn 2022-23, darparwyd dros 6,000 o becynnau Naloxone i i’w defnyddio gartref.  

“Mae’n galonogol gweld bod mwy o farwolaethau cyffuriau opioid yn cael eu hatal trwy ddefnyddio Naloxone a bod y feddyginiaeth achub bywyd hanfodol hon yn cael ei chario gan fwy o bobl yng Nghymru nag erioed o’r blaen,” meddai Rick Lines.

“Gellir archebu Naloxone am ddim yng Nghymru drwy ffonio Dan 24/7 neu drwy ymweld â’u gwefan.” 

‘Cynnydd mawr’

Opioidau yw’r grŵp sylweddau mwyaf cyffredin a gofnodwyd mewn marwolaethau camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru. 

Yn 2022, roedd 61% o farwolaethau yn ymwneud ag opioid (n = 125). O'r 125 o farwolaethau opioid, roedd 64 yn ymwneud â heroin/morffin. 

Roedd y 61 marwolaeth arall yn ymwneud ag o leiaf un opioid arall fel methadon, codin neu tramadol.  

Cynyddodd nifer y marwolaethau lle'r oedd cocên yn ffactor a gyfrannodd eto am flwyddyn arall yn olynol. 

Yn 2022, cofnodwyd presenoldeb cocên mewn 52 o farwolaethau, sef 26% o'r holl farwolaethau o gamddefnyddio cyffuriau, y trydydd uchaf ar ôl opioidau a Bensodiasepinau (30 y cant o farwolaethau cyffuriau).  

Bu cynnydd mawr yn nifer y marwolaethau yn ymwneud â chocên dros y tair blynedd diwethaf, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bu cynnydd hefyd yn nifer yr achosion o fynd i'r ysbyty a oedd yn gysylltiedig â chocên a mwy o unigolion yn cyflwyno am driniaeth o fewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.  

Bu mwy o farwolaethau hefyd lle cocên oedd yr unig sylwedd a restrwyd a gostyngiad yn nifer y marwolaethau lle defnyddiwyd cocên ar y cyd â sylweddau eraill. 

Sylweddau cyffredin a restrir ochr yn ochr â chocên yw heroin/morffin ac opioidau eraill. 

Arhosodd marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau o ganlyniad i sylweddau lluosog (defnydd aml-gyffuriau) yn uchel, sef 126 o farwolaethau. 

Digwyddodd y rhan fwyaf o farwolaethau camddefnyddio cyffuriau ymhlith y rhai yn y grŵp oedran dros 50 oed, sef 25% o’r holl farwolaethau cyffuriau (n = 45) yn 2022. 

Bu 13 o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau ymhlith pobl o dan 25 oed. 

Llun gan Find Rehab Centers dan drwydded Comin Creadigol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.