Newyddion S4C

Yr ymateb wedi i Craig Bellamy cael ei benodi'n rheolwr newydd ar Gymru

10/07/2024

Yr ymateb wedi i Craig Bellamy cael ei benodi'n rheolwr newydd ar Gymru

Hydref 2002. "Hartson, Bellamy. Bellamy a chyfle. Bellamy dros Gymru."

Uchafbwynt gyrfa ryngwladol Craig Bellamy ar y cae i Gymru. Gol fuddugol i guro'r Eidal o flaen 70,000 o gefnogwyr yng Nghaerdydd. Ceisio dylanwadu o ochr y cae fydd y dyn o'r brifddinas o hyn ymlaen.

Mae wedi ceisio am swydd rheolwr Cymru o'r blaen ond Ryan Giggs gafodd y swydd bryd hynny. Chwe mlynedd yn ddiweddarach, Bellamy sydd wrth y llyw.

"Dw i'n meddwl bod e'n benodiad da."

Yn ei adnabod ers dros chwarter canrif mae Iwan Roberts wedi chwarae gyda Craig Bellamy i Norwich a Chymru.

"Wnes i chwarae'r gêm yma am 20 mlynedd yn broffesiynol. Does 'na'r un chwaraewr dw i 'di chwarae efo efo'r etheg gwaith o'dd gan Craig Bellamy. O'dd o mor fanwl yn ei waith yn rhoi oriau i mewn i wella fel chwaraewr pêl-droed proffesiynol.

"Mae un peth yn sicr, neith 'na'r un tîm weithio yn fwy caled na Chymru o dan Bellamy."

Mae gan Bellamy 78 cap dros ei wlad cyn ymddeol yn 2013. Sgoriodd 19 gol dros ei wlad. Ar ôl dechrau gyda Norwich, mae wedi chwarae dros sawl clwb gan gynnwys Newcastle, Celtic, Lerpwl a Chaerdydd.

Yn dilyn hynny mae wedi bod yn hyfforddi gyda Anderlecht yng Ngwlad Belg a Burnley yn Uwch Gynghrair Lloegr.

"Dros amser, efallai bod Craig Bellamy fel person wedi aeddfedu. Mae 'di cael mor o brofiad yn gweithio gyda Vincent Kompany, wedi cael llwyddiant yn Anderlecht a dod â Burnley i Uwch Gynghrair Lloegr.

"Be fydd yn ddiddorol ydy gweld pwy fydd o'n dod efo fo fel rhan o'i dîm hyfforddi. Pwysig cael bach o brofiad i'w gynorthwyo yn y swydd enfawr 'ma."

"Mae 'na bob tro bwyslais ar chwaraewr ifanc yn y tîm a'r possession-based football, fluid and attacking football. Dw i'n gobeithio taw dyma'r math o bêl-droed bydd Cymru'n chwarae yn y dyfodol.

"Mae'n haws, dim yn hawdd, i wneud hwnna ar clwb level oherwydd fedri di werthu chwaraewyr a dod a chwaraewyr mewn."

Lai na blwyddyn yn ôl a Robert Page ar lannau Llyn Tegid ger y Bala yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau fyddai ymhlith ei olaf yn rheolwr dros ei wlad. Faint o groeso sydd i Bellamy yn Llanuwchllyn?

"O'n i'n falch iawn o glywed. Mae wedi chwarae i'r safon uchaf ac yn ddyn angerddol a gwyllt. Bydd o'n ddiddorol gweld be ddaw dros y bedair mlynedd nesaf."

"Dw i'n meddwl bod o'n benodiad da ac edrych ymlaen i weld sut eith hi. Mae tipyn o waith o'i flaen."

"Dw i'n teimlo bod ganddo ychydig i brofi er bod yn is-reolwr. Dw i'n cofio Craig Bellamy yn chwaraewr gyda natur fyrbwyll. Doedd ei agwedd o ddim bob tro yn wych.

"Bydd rhaid iddo fod yn ddisgybledig iawn fel rheolwr."

"Mae 'di gwneud yr oriau caled ac anodd fel hyfforddwr. Mae'r amser yn iawn i Craig fod y rheolwr nesaf."

Boddi wrth y lan wnaeth Craig Bellamy, y chwaraewr ond mi fydd dyn â than yn ei fol yn benderfynol o gyrraedd y lefel uchaf fel rheolwr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.