Sir Benfro: Arestio gyrrwr ar ôl i gar wrthdaro â menyw
Mae'r heddlu wedi arestio dyn ar amheuaeth o ymosod ar ôl i gar wrthdaro â menyw yn Sir Benfro.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y gwrthdrawiad wedi digwydd tua 22:10 nos Wener 6 Gorffennaf.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng Meredes Estate Glas a menyw oedd yn cerdded ar Stryd yr Ysgubor (Barn Street) yn Hwlffordd.
Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty ar gyfer triniaeth.
Roedd y gyrrwr 58 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac maen nhw'n apelio am dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad.
Hefyd maen nhw'n apelio am bobl oedd yn teithio ar Stryd yr Ysgubor neu sydd â ffilm teledu cylch cyfyng o'r digwyddiad.
"Hoffwn siarad yn benodol ag unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd Stryd Barn ar y pryd ac a allai fod â ffilm teledu cylch cyfyng yn eu cerbyd," meddai llefarydd.
"Gallwch gysylltu â'r heddlu naill ai ar-lein, drwy e-bostio 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 24000593369."
Llun: Wikimedia Commons