
Diweddariad Covid-19: 535 o achosion newydd ond dim marwolaethau
Mae 535 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r nifer uchaf o achosion newydd wedi eu cofnodi yng Nghaerdydd, gyda 98 achos positif newydd o'r haint wedi eu cofnodi yn y sir.
Er hynny, nid oes marwolaeth newydd yn sgil Covid-19 wedi ei chofnodi ddydd Sul.
Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 ers dydd Sul, 27 Mehefin.

Wrth edrych ar y gyfradd o'r haint dros gyfnod o saith diwrnod fesul 100,000 o'r boblogaeth, roedd y gyfradd ar ei huchaf yn Sir y Fflint rhwng 22 - 28 Mehefin, a hynny'n 183.9 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth.
Yr unig sir yn y gogledd oedd ddim â chyfradd uwch na 100 fesul 100,000 o'r boblogaeth am y cyfnod dan sylw oedd Ynys Môn, gyda 88.5.
Yng Nghasnewydd mae cyfradd yr haint ar ei hisaf, sef 27.8 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 2,263,775 o bobl bellach wedi derbyn un dos o'r brechlyn, gyda 1,723,824 o bobl wedi eu brechu yn llawn yn erbyn Covid-19 yng Nghymru.