Cyngor Gwynedd i ystyried pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau
Byddai angen i berchnogion tai yng Ngwynedd gael caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr, be bai adroddiad sy'n argymell hynny yn cael ei gymeradwyo.
Cyhoeddodd Cyngor Gwynedd y bydd hynny yn cael ei ystyried gan aelodau'r cabinet ar 16 Gorffennaf, wrth iddyn nhw drafod a ddylid gweithredu yr hyn sy'n cael ei alw'n Gyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.
Yn ôl y cyngor, byddai hwn yn gam "arloesol."
Cynhaliodd y Cyngor gyfnod ymgysylltu cyhoeddus ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ystod Awst a Medi 2023.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae Cyngor Gwynedd am weld pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol – mae hynny yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni.
"Prisio allan o'r farchnad"
“Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.
“Mae’n anorfod felly fod y nifer sylweddol o dai sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr yn effeithio ar allu pobl Gwynedd i gael mynediad at gartrefi yn eu cymunedau.
“Trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, byddai gan y Cyngor arf newydd i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau. Byddai’r newid yn golygu y byddai angen i berchnogion gyflwyno cais cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo preswyl yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor-byr.
“Os bydd y Cyngor yn penderfynu bwrw ymlaen, Gwynedd fyddai’r Awdurdod Cynllunio cyntaf i ddefnyddio’r pwerau cynllunio newydd yma a gyflwynwyd gan y Llywodraeth. "
Os ydi’r Cabinet yn penderfynu cadarnhau'r newid, byddai’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dod i rym o 1 Medi 2024, a hynny yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig, ac nid yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri.
Yn ôl y cyngor, ni fyddai’r newid yn effeithio ar dai sydd eisoes wedi sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr cyn i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ddod i rym.