Techniquest i roi cyfle i blant archwilio llong wyddonol
Bydd Techniquest yn cynnig cyfle i blant archwilio llong ymchwil wyddonol ym Mae Caerdydd.
Bydd y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol (National Oceanography Centre) yn dod â’r Llong Ymchwil Frenhinol, The James Cook, i Gaerdydd fel rhan o’r digwyddiad.
Bydd y digwyddiad ‘Archwilio Ein Planed’ am ddim yn cael ei gynnal dros benwythnos 19 a 20 Hydref eleni a bydd Techniquest yn cysylltu gydag ysgolion cymwys i roi gwybod iddyn nhw sut i gymryd rhan.
Dywedodd Dr John Siddorn, Prif Swyddog Gweithredol NOC y bydd yn “gyfle unigryw i’r cyhoedd ymweld â llong ymchwil weithredol a deall sut beth yw bywyd ar y cefnfor i’n hymchwilwyr a’n criw”.
“Gall ein gwyddonwyr a’n technolegwyr fod ar y môr am wythnosau ar y tro, yn cynnal ymchwil hollbwysig o dan amodau anodd,” meddai.
“Mae angen sgil mawr ar draws ystod o ddisgyblaethau i ddeall y môr!
“Gall oedolion a phlant weld drostynt eu hunain sut brofiad yw hi ar y llong, ac efallai y byddwn hyd yn oed yn ysbrydoli rhai i ddod yn eigionegwyr y dyfodol”.
‘Cyfle i bawb'
Bydd y llong yn rhan o benwythnos o weithgareddau gan gynnwys sgyrsiau gan rai o wyddonwyr amgylcheddol blaenllaw'r DU ar y cyd â Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).
Dywedodd yr Athro Louise Heathwaite, Cadeirydd Gweithredol NERC: “Rydym yn hynod ffodus yn y DU i fod yn gartref i rai o’r gwyddonwyr amgylcheddol mwyaf blaenllaw yn y byd.
“Maen nhw, ynghyd ag ymchwilwyr ar draws disgyblaethau lluosog, yn nodi ac yn helpu i ddatrys heriau amgylcheddol byd-eang.
“Bydd y digwyddiad ‘Archwiliwch ein planed’ yn rhoi cyfle i bawb gael golwg a chymryd rhan, gan gwrdd â’r gwyddonwyr sy’n cynnal yr ymchwil hwn a dysgu sut y gallwn fyw’n gynaliadwy ar y Ddaear”.
Gall aelodau o’r cyhoedd gofrestru am ragor o wybodaeth ar e-gylchlythyr Techniquest.