Newyddion S4C

Y Prif Weinidog newydd yn addo ‘parchu’ y cenhedloedd datganoledig wrth ddechrau taith heddiw

07/07/2024

Y Prif Weinidog newydd yn addo ‘parchu’ y cenhedloedd datganoledig wrth ddechrau taith heddiw

Mae’r Prif Weinidog newydd wedi addo “ailosod” perthynas Llywodraeth y DU gyda’r cenhedloedd datganoledig “yn syth” wrth ddechrau ar daith ohonynt heddiw.

Dywedodd Keir Starmer mai “parch” fyddai ei arwyddair wrth ymweld â llywodraethau'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Fe fydd yn ymweld â’r Alban ddydd Sul ac mae disgwyl iddo ymweld â Chymru a Gogledd Iwerddon ddydd Llun.

Dywedodd ei fod eisiau troi “anghytuno i mewn i gydweithio” gyda’r SNP yn Holyrood.

“Mae pobl ar draws y Deyrnas Unedig wedi eu rhwymo ynghyd gan werthoedd cyffredin,” meddai.

“Gwerthoedd sylfaenol gan gynnwys parch, gwasanaeth a chymuned sy’n ein diffinio fel cenedl arbennig.

“Mae hynny’n dechrau heddiw gydag ailosodiad ar unwaith dull fy Llywodraeth o weithio gyda’r prif weinidogion a dirprwy prif weinidogion.

“Oherwydd bydd cydweithredu ystyrlon sy’n canolbwyntio ar barch yn allweddol i gyflawni newid ar draws y Deyrnas Unedig.

“Gyda’n gilydd gallwn ddechrau’r gwaith o ailadeiladu ein gwlad gan ganolbwyntio ar wasanaethu pobl unwaith eto.”

'Calon'

Cyn teithio i’r Alban ddydd Sul dywedodd Keir Starmer: “Bydd Llywodraeth y DU yn gosod yr Alban yn ôl wrth galon popeth a wnawn.

“I bobl yr Alban, mae fy neges yn syml ac yn glir: Rydych chi wrth galon sut rydyn ni'n cefnogi ffyniant ledled y wlad. 

“Byddwn yn ailadeiladu Alban gref sydd ar flaen y gad yn ein degawd o adnewyddu cenedlaethol.

“Mae fy nghynnig i Lywodraeth yr Alban yr un peth. 

“Gallwn droi anghytundeb yn gydweithrediad a, thrwy gydweithrediad ystyrlon a chynnig sedd i chi wrth y bwrdd, sicrhau newid am genhedlaeth.”

Yn ei ddiwrnod llawn cyntaf yn y swydd ddydd Sadwrn dywedodd Keir Starmer ei fod eisiau “gwthio grym ac adnoddau allan o Whitehall”.

Y bobl oedd yn gweithio yng nghenhedloedd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig oedd yn gwybod beth oedd orau i’w cymunedau, meddai.

Roedd hynny’n cynnwys cwrdd ag arweinwyr rhanbarthol Lloegr ddydd Mawrth, meddai.

Llun gan Claudia Greco / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.