Gyrfa Wimbledon Andy Murray ar ben ar ôl i Emma Raducanu dynnu'n ôl
Mae gyrfa Andy Murray yn Wimbledon ar ben ar ôl i Emma Raducanu dynnu'n ôl o’r dyblau cymysg.
Roedd yr Albanwr, 37, wedi bwriadu chwarae ochr yn ochr â hi nos Sadwrn cyn ymddeol yn hwyrach ymlaen eleni.
Ond dywedodd Raducanu, 21, bod ei garddwn dde yn peri trafferthion iddi a’i bod hi wedi “gwneud y penderfyniad anodd iawn” i beidio cystadlu.
“Dw i’n siomedig gan fy mod i wedi edrych ymlaen yn fawr at chwarae gydag Andy ond mae’n rhaid i mi gymryd gofal,” meddai.
Mae'n golygu bod Andy Murray wedi gwneud ei ymddangosiad olaf yn SW19 ddydd Iau pan gollodd â'i frawd hŷn Jamie yng ngemau dyblau'r dynion.
Cafodd fideo o yrfa Murray ei chwarae ar y sgrin fawr ar ôl y gêm gan adael y chwaraewr a oedd yn rif un y byd ar un cyfnod yn ei ddagrau.