Newyddion S4C

Jeremy Hunt ddim eisiau arwain y Ceidwadwyr

06/07/2024
Jeremy Hunt - Llun Trysorlys

Mae un o’r Ceidwadwyr mwyaf profiadol sy’n weddill yn Senedd San Steffan wedi dweud nad yw’n bwriadu cynnig ei hun fel arweinydd newydd.

Jeremy Hunt oedd Canghellor y Trysorlys cyn yr etholiad cyffredinol ac mae wedi bod yn Ysgrifennydd Tramor, Iechyd a Diwylliant.

Mae’r cyn Brif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud y bydd yn parhau yn arweinydd ar y blaid nes bod un newydd yn ei le.

Dywedodd Jeremy Hunt wrth wasanaeth newyddion GB News na fyddai yn cynnig ei enw gerbron aelodau'r blaid.

“Mae’r amser wedi mynd heibio,” meddai'r dyn a ymgeisiodd am yr arweinyddiaeth yn 2019 a 2022, gan golli i Boris Johnson a Liz Truss.

'Cymryd amser'

Dioddefodd y Ceidwadwyr eu canlyniad gwaethaf erioed ddydd Iau gyda dim ond 121 o etholaethau yn weddill.

O'r rheini a oroesodd y chwalfa, mae disgwyl i’r cyn Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman gyhoeddi y bydd hi’n sefyll.

Mae dau gyn Ysgrifennydd Cartref arall James Cleverly a Priti Patel, yn ogystal â’r cyn Ysgrifennydd Busnes Kemi Badenoch, yn enwau posib eraill sydd wedi eu hawgrymu.

Dywedodd Suella Braverman wrth ymateb i ganlyniad yr etholiad ei fod yn rhy gynnar i drafod y camau nesaf.

“Mae'n rhaid i ni gymryd digon o amser, mae'n rhaid i ni ddarganfod beth yw'r sefyllfa,” meddai.

“Mae wedi bod yn ganlyniad gwael iawn. Does dim dwywaith am hynny. Mae cannoedd o ASau Torïaidd rhagorol wedi colli eu swyddi.”

Mewn neges Whatsapp at ASau'r blaid a gyhoeddwyd yn y wasg ddydd Sadwrn dywedodd Rishi Sunak y byddai'r blaid yn fuan "yn ôl ar y droed flaen a'n herio" y llywodraeth newydd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.