Newyddion S4C

Cyfnod gwraig Keir Starmer yn llywydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd

06/07/2024
Victoria Starmer

Mae gwraig y Prif Weinidog newydd Keir Starmer wedi cadw allan o sylw’r cyhoedd yn ystod cyfnod ei gŵr yn arweinydd yr wrthblaid.

Ond un manylyn diddorol o’i bywyd i gynulleidfa Gymreig yw ei bod yn gyn llywydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

Yn ystod ei hymgyrch ar gyfer y rôl fe wnaeth hi gynhyrchu maniffesto dwyieithog ar gyfer tudalen y papur newydd, Gair Rhydd.

Dadleuodd yn Gymraeg fod ganddi'r “profiad angenrheidiol” er mwyn sicrhau bod yr undeb yn “darparu gwasanaethau, a chefnogaeth er lles ac yn academaidd i chwi yn ystod eich amser yng Nghaerdydd”.

Fe aeth Victoria Starmer - Alexander ar y pryd - i’r brifysgol er mwyn astudio'r gyfraith a chymdeithaseg cyn cael ei hethol yn llywydd ar yr undeb yn 1994.

Image
Victoria Starmer
Maniffesto Victoria Starmer

Ond fel ei gŵr roedd rhaid iddi ddelio gydag ambell i her i’w hawdurdod.

Ym mis Ionawr 1996 fe gariodd yr un papur newydd y pennawd ‘President railroads SUC'.

Ym mis Mai 1995 yr un flwyddyn roedd rhagor o benawdau beirniadol: ‘President accused of holding SUC in contempt’.

Roedd cyngor undeb y myfyrwyr yn dadlau ei bod wedi camddefnyddio ei grymoedd wrth geisio oedi etholiadau’r cyngor er mwyn rhoi rhagor o gyfle i baratoi ar eu cyfer nhw.

Wrth ymateb ar y pryd dywedodd fod y feirniadaeth yn "chwerthinllyd" a bod peryg y byddai yr etholiadau'n "annilys" o'u cynnal heb ddigon o amser i baratoi.

'Bywyd normal'

Does dim tystiolaeth fod Victoria Starmer yn parhau i ymhél a gwleidyddiaeth, yn gyhoeddus beth bynnag, ac mae wedi aros o’r golwg ar y cyfan yn ystod ymgyrch ei gŵr.

Dywedodd Keir Strarmer, sy'n 61 oed, mai ei flaenoriaeth oedd sicrhau bywyd mor “normal” a phosib i’w deulu tra’r oedd yn arweinydd yr wrthblaid.

Fe fyddai ei wraig yn parhau i weithio mewn ysbyty yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol tra ei fod yn Brif Weinidog, meddai.

Roedd hefyd eisiau llonydd i’w blant 15 ac 13 oed wrth iddyn nhw astudio ar gyfer arholiadau, er eu bod nhw'n mynd i fyw yn Rhif 11 Stryd Downing.

"Fe wnaethon ni'r penderfyniad y bydden ni'n eu cadw mor ddiogel ag y gallwn ni," meddai.

"Rydw i eisiau iddyn nhw allu cerdded i'r ysgol a gwneud pethau mor normal ag y gallant.

"Rydyn ni'n ceisio sicrhau eu bod yn gallu cael bywydau merch a bachgen cyffredin yn eu harddegau. Mae'n anodd."

Mae Keir Starmer wedi dweud y bydd yn ceisio rhoi'r gorau i weithio am 18.00 bob nos Wener er mwyn treulio amser gyda'i deulu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.