Newyddion S4C

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi pecyn cymorth Corwynt Beryl i’r Caribî

06/07/2024
Corwynt Beryl

Mae’r DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd ar gyfer gwledydd y Caribî sydd wedi’u heffeithio gan Gorwynt Beryl.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor newydd David Lammy wedi cynyddu cymorth hyd at £500,000 i gefnogi’r bobl gyda’u cartrefi a’u bywoliaeth.

Corwynt Beryl oedd y corwynt Categori 5 cynharaf a gofnodwyd ym Môr yr Iwerydd.

Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys 800 o becynnau lloches brys sy'n gallu cefnogi hyd at 4,000 o bobl. 

Mae'r rhain wedi cael eu hanfon i Granada a St Vincent a'r Grenadines.

Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor hefyd fod 1,620 o fwcedi er mwyn i gartrefi gasglu a storio dŵr wedi’u hanfon o gyflenwadau wrth gefn yn y rhanbarth fel rhan o gynlluniau parodrwydd y DU.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, David Lammy: “Mae ein meddyliau yn parhau gyda’r rhai sydd wedi colli anwyliaid, eu cartrefi neu sydd wedi cael eu gadael heb bŵer.

“Bydd y cyllid yn helpu i gefnogi ymdrechion adfer ar ôl trychineb, fel rhan o ymateb cyflym a chydgysylltu yn y rhanbarth.

“Mae’r ffaith bod storm o’r fath wedi datblygu mor gynnar yn y tymor yn dangos ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd a rhaid gweithredu nawr.”

Cymorth consylaidd 

Mae’r DU hefyd wedi darparu cymorth ar gyfer defnyddio timau rhanbarthol i gynorthwyo’r swyddogion trychineb cenedlaethol.

Mae llong batrôl y Llynges Frenhinol HMS Trent wedi cyrraedd Ynysoedd y Cayman, tiriogaeth dramor Brydeinig, i roi cymorth i gymunedau sydd wedi’u heffeithio gan y corwynt.

Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor hefyd fod swyddogion wedi teithio i’r rhanbarth i ddarparu cymorth consylaidd i unrhyw Brydeinwyr sydd wedi eu heffeithio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.