Y 'canlyniadau gorau ers 100 mlynedd' i'r Rhyddfrydwyr
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey wedi diolch i’w gefnogwyr am helpu’r blaid i gael y “canlyniadau gorau ers dros 100 mlynedd”.
Fe enillodd y Rhyddfrydwyr 71 o seddi yn yr Etholiad Cyffredinol. 11 oedd y ffigwr yn 2019.
Fe ddaeth y canlyniad cyntaf i’r blaid yn sedd Harrogate a Knaresborough. Yn ystod y noson fe gollodd nifer o Geidwadwyr blaenllaw eu seddi i’r Democratiaid Rhyddfrydol gan gynnwys yr Ysgrifennydd Addysg Gillian Keegan a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Alex Chalk.
Ond wnaethon nhw ddim llwyddo i wthio’r Canghellor, Jeremy Hunt allan. Fe wnaeth o ddal gafael yn ei sedd yn Goldaming ac Ash ond dim ond gyda mwyafrif o 891.
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol fe benderfynodd Ed Davey i wneud nifer o styntiau er mwyn denu sylw fel gwneud naid bynji a mynd lawr llithren ddŵr. Yn ogystal fe wnaethon nhw ganolbwyntio adnoddau’r blaid mewn niferoedd bach o seddi, y mwyafrif yn rhai Ceidwadol yn ne Lloegr.
Y tebygrwydd nawr yw mai nhw fydd y drydedd blaid fwyaf yn Nhŷ’r Cyffredin.
Wrth gyfarch ei gefnogwyr ym mhencadlys y blaid dywedodd Ed Davey: “Dwi eisiau diolch i chi am ymddiried ynom ni unwaith eto. Wnawn ni ddim eich siomi chi.”
Ychwanegodd mai prif nod y blaid nawr fydd ymgyrchu ar faterion iechyd a gofal.