Newyddion S4C

Teyrnged teulu i ‘ferch a chwaer arbennig' gafodd ei darganfod yn farw

Lauren Evans

Mae teulu myfyriwr nyrsio gafodd ei darganfod yn farw ochr yn ochr â chorff parafeddyg wedi talu teyrnged i "ferch a chwaer arbennig".

Cafwyd hyd i Lauren Evans, 22 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, a Daniel Duffield, 24 oed o Cannock, yn farw yn eu cartref ar Alpine Drive yn Hednesford, ar 25 Mehefin.

Agorodd gwrandawiad cwest ddydd Mercher i farwolaeth Ms Evans, ond nid yw achos ei marwolaeth wedi'i ddatgelu eto.

Dywedodd heddlu Swydd Stafford fod ei marwolaeth yn cael ei thrin fel llofruddiaeth ac nid ydyn nhw yn chwilio am unrhyw un arall yn eu hymchwiliad.

Mewn datganiad dywedodd ei theulu:“Roedd Lauren yn wirioneddol brydferth y tu mewn a’r tu allan a bydd yn ein hatgofion am byth.

"Cafodd ei charu gan ei rhieni, ei chwaer iau, ei nain a’i thaid, ei theulu a’i ffrindiau oherwydd ei bod yn ferch hyfryd, hynaws a byddai ei gwên yn goleuo hyd yn oed y dyddiau tywyllaf.”

Ychwanegodd ei theulu fod ganddi "natur feddylgar, ofalgar a chariadus".

“Roedd ganddi gymaint mwy o gariad i’w roi a gwenu i’w rannu gyda theulu a ffrindiau yn y dyfodol," medde nhw.

Mae heddluoedd Swydd Stafford a Heddlu De Cymru, wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn dilyn cyswllt diweddar gyda’r pâr.

Llun: Teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.