Mari George a Tom Bullough yn cipio Llyfr y Flwyddyn 2024
Mari George a Tom Bullough sydd wedi cipio prif wobrau Llyfr y Flwyddyn 2024.
Enillodd Mari George y brif wobr Gymraeg gyda’i nofel gyntaf i oedolion, Sut i Ddofi Corryn, ac fe enillodd Tom Bullough y wobr Saesneg gyda’i lyfr, Sarn Helen.
Fe gafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn Galeri Caernarfon nos Iau, a hynny am yr ail dro wyneb yn wyneb ers cyfnod Covid, yn 2019.
Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n cael ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru i ddathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Yn fardd adnabyddus, a hithau hefyd yn brofiadol yn addasu llyfrau i blant, mae Mari George yn gobeithio y bydd ei nofel yn “annog darllenwyr i gamu i’r annisgwyl".
Sut i Ddofi Corryn yw un o gyhoeddiadau cyntaf y wasgnod newydd, Sebra.
Eu nod yw cyhoeddi llyfrau sy’n diddanu, yn herio ac yn cyflwyno safbwyntiau ffres a chyfoes fydd yn berthnasol i ddarllenwyr yng Nghymru a thu hwnt.
Maent yn gobeithio cyhoeddi gweithiau newydd fydd yn annog darllenwyr i gamu i’r annisgwyl.
Mae’r nofel yn dilyn taith y prif gymeriad, Muriel, o Gymru i Guatemala wrth iddi geisio ddod o hyd i gynhwysyn allai dod â gwellhad i’w gŵr, Ken.
Cyn iddi dderbyn prif wobr Gymraeg y noson, fe enillodd yr awdur Wobr Ffuglen Gymraeg hefyd.
Fe enillodd Tom Bullough y brif wobr Saesneg gyda’i lyfr ffeithiol, Sarn Helen, sydd yn dilyn ei daith ar hyd ffordd Rufeinig o Gastell-nedd yn ne Cymru, i Gaerhun yn y gogledd.
Roedd yr awdur hefyd wedi casglu gwobr Llyfr Ffeithiol Creadigol Saesneg.
Sarn Helen oedd enillydd llyfr Gymraeg y flwyddyn y llynedd yng ngwobrau llyfr Waterstones.
'Cyhoeddi perlau'
Mae enillwyr Llyfr y Flwyddyn yn derbyn gwobr ariannol o £4,000, yn ogystal â thlws sydd wedi’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Â ninnau’n rhedeg gwobr Llyfr y Flwyddyn ers ugain mlynedd bellach, mae’n destun bleser gennym i weld yr amrywiaeth o awduron sy’n ennill y gwobrau – yn awduron sy’n cyhoeddi am y tro cyntaf a’r llenorion toreithiog sy’n parhau i gyhoeddi perlau.”
Dyma’r llyfrau a gipiodd y gwobrau ym mhob categori yn y Gymraeg:
Gwobr Ffuglen a Phrif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2024: Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)
Y Wobr Farddoniaeth: Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)
Gwobr Ffeithiol Greadigol: Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy: Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)
Gwobr Barn y Bobl Golwg360: Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)
Dyma’r llyfrau a gipiodd y gwobrau ym mhob categori yn Saesneg:
Gwobr Ffeithiol Greadigol a Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2024: Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)
Y Wobr Farddoniaeth: Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies: The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy: Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)
Gwobr People’s Choice nation.cymru: In Orbit, Glyn Edwards (Seren)