Atal merch Capten Syr Tom Moore rhag bod yn gyfrifol am elusen a gafodd ei sefydlu yn enw ei thad
Mae merch Capten Syr Tom Moore wedi’i hatal rhag bod yn gyfrifol am elusen a gafodd ei sefydlu yn enw ei thad, yn sgil pryderon am annibyniaeth yr elusen.
Mae Hannah Ingram-Moore, a’i gwr, Colin wedi cael eu hatal gan y Comisiwn Elusennau rhag bod yn ymddiriedolwyr elusen The Captain Tom Foundation.
Llwyddodd Syr Tom i godi £38.9 miliwn i'r Gwasanaeth Iechyd drwy gerdded gant o weithiau o gwmpas ei ardd yn ystod y cyfnod clo yn 2020, ychydig cyn ei benblwydd yn 100 oed. Bu farw yn 2021.
Mewn datganiad, dywedodd y teulu Ingram-Moore na fyddan nhw’n apelio yn erbyn y penderfyniad.
Dywedodd eu bod nhw wedi gwneud “penderfyniad hynod o anodd” ond nad oedden nhw am apelio yn erbyn y comisiwn a hynny ar sail y “byrdwn ariannol” y byddai hynny’n golygu.
Fe gafodd The Captain Moor Foundation ei sefydlu yn 2020. Ond mae’r elusen wedi bod dan ymchwiliad gan y Comisiwn Elusennau ers Mehefin 2022, wedi i Syr Tom farw yn 2021 yn 100 oed.
Daw’r ymchwiliad ymhlith pryderon ynglŷn ag annibyniaeth yr elusen oddi’r teulu, yn ogystal â’r modd y mae’r elusen yn cael ei gynnal.
Llun: Jacob King/PA Wire