Newyddion S4C

Arestio gyrrwr bws ysgol yn Sir Ddinbych ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad cyffuriau

Ysgol

Mae gyrrwr bws ysgol yn Sir Ddinbych wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad cyffuriau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd fod dyn 45 oed o ardal Llandudno wedi cael ei arestio ychydig cyn 17:00 brynhawn Mawrth ar yr A5 ger Corwen ar ôl profi'n bositif am ganabis ar ochr y ffordd. 

Nid oedd yna ddisgyblion ysgol ar y bws ar y pryd. 

Ychwanegodd yr heddlu fod y dyn bellach wedi cael ei ryddhau tra'u bod yn disgwyl canlyniadau rhagor o brofion. 

Mae'r ysgol, yr awdurdod lleol a'r cwmni bws wedi cael gwybod yn ôl yr heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn "ymwybodol o'r digwyddiad difrifol yma ac yn gweithio gydag asiantaethau allweddol, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddod i benderfyniad."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud â gyrrwr bws ysgol, ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i'r mater ar hyn o bryd."

Ni wnaeth y cwmni bws, sydd wedi eu contractio ar gyfer sawl ysgol yn Siroedd Conwy a Dinbych, unrhyw sylw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.