Newyddion S4C

Mam yn cyfaddef dod a bywyd ei mab i ben 'yn heddychlon'

Antonya Cooper a Hamish

Mae mam wedi  cyfaddef rhoi'r cyffur morphine i’w mab ifanc oedd â chanser er mwyn dod â'i fywyd i ben yn "dawel ac yn heddychlon."

Roedd gan fab Antonya Cooper, Hamish oedd yn saith oed, ganser nad oedd modd ei wella a roedd yn dioddef a “llawer o boen” cyn ei farwolaeth yn 1981, meddai ei fam. 

A hithau bellach yn dioddef o ganser nad oes modd ei wella, mae Antonya Cooper o Swydd Rhydychen wedi cyfaddef ei bod hi wedi rhoi diwedd ar fywyd ei mab. Mae hi'n cefnogi'r ymgyrch i newid y gyfraith ynglŷn â ‘marw gyda chymorth’ (‘assisted dying’). 

Wrth siarad ar raglen BBC Radio Rhydychen ddydd Mercher, dywedodd Ms Cooper ei bod hi'n credu ei bod hi wedi gwneud “y peth cywir.”

“Roedd fy mab yn wynebu’r poen mwyaf erchyll ac yn dioddef yn ddifrifol, doeddwn i ddim am adael iddo fynd trwy hynny,” meddai. 

Image
Antonya Cooper gyda'i mab, Hamish
Antonya Cooper gyda'i mab, Hamish

'Poen'

Mae dod â bywyd person i ben – naill ai drwy ddull ‘marw gyda chymorth’ ble y mae unigolyn yn helpu person arall i ddod â’i fywyd i ben, neu drwy ddull ewthanasia, sef dod â bywyd person i ben yn fwriadol – yn anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr.

Roedd gan Hamish math o ganser 'neuroblastoma', sef math o ganser sydd yn effeithio ar blant. Roedd yn bump oed pan gafodd ei ddiagnosis ac roedd disgwyl iddo fyw am dair fis pellach. 

Yn dilyn 16 mis o driniaeth canser yn ysbyty Great Ormand Street, dywedodd meddygon roedd disgwyl iddo fyw am gyfnod pellach – ond roedd yn byw gyda phoen difrifol wael, meddai Ms Cooper. 

“Ar noson olaf Hamish, dywedodd ef ei fod mewn cymaint o boen. Gofynnais: ‘Wyt ti eisiau i mi gael gwared â dy boen?’ a dywedodd ef: “Ydy os gwelwch yn dda, mama.’"

Image
Hamish

'Cyfaddef'

Wedi iddi ddweud ei bod hi wedi rhoi diwedd ar fywyd ei mab, roedd BBC Radio Rhydychen wedi gofyn Ms Cooper a oedd hi’n deall ei bod wedi, o bosib, cyfaddef i ddynladdiad neu lofruddio. 

“Ydy,” meddai mewn ymateb. 

“Os ydyn nhw’n dod 43 mlynedd wedi i mi alluogi Hamish marw yn heddychlon, fyddai’n wynebu’r canlyniadau hynny. 

“Ond fydd rhaid iddyn nhw fod yn gyflym, achos dwi’n marw hefyd,” meddai. 

Dywedodd bod diagnosis canser ei hunain bellach wedi rhoi sicrwydd iddi ynglŷn â’i theimladau hi o ran dulliau marw gyda chymorth.

Gan nad ydyn ni’n gadael i’m hanifeiliaid anwes dioddef, “pam ddylen ni ei wneud i bobl?” holodd. 

Mae rhai ymgyrchwyr wedi gwneud galwadau o’r newydd yn ddiweddar ar gyfer yr “hawl i farw,” gan ddweud y dylai pobl dewis sut yr ydyn nhw am farw er mwyn osgoi dioddef. 

Ond mae rhai pobl wedi gwrthwynebu’r galwadau rheiny gan ddweud y byddai gyfraith o’r fath yn rhoi pwysau ar bobl fregus i roi diwedd i’w bywydau.

Mae ASau yn San Steffan wedi trafod y mater ar lawr y Senedd yn ddiweddar, ond dywedodd fod achosion o’r fath yn bersonol ac na ddylai un polisi llywodraethol cael ei greu o ganlyniad. 

Lluniau: Collect/PA Real Life
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.