Newyddion S4C

Brawd bachgen wedi ceisio ei achub cyn iddo ddiflannu dan donnau

Daniel Halliday

Roedd bachgen yn ei arddegau wedi bod yn neidio dros donnau ar draeth gyda'i frawd cyn iddo ddiflannu.

Aeth Daniel Halliday, 14 oed, ar goll mewn cerrynt cryf yn Afon Mersi, ac fe geisiodd ei frawd hŷn ei achub meddai ei deulu mewn datganiad.

“Ein hofn gwaethaf yw bod y ddamwain drasig hon wedi cymryd ein bachgen hyfryd oddi arnom,” meddai'r teulu mewn datganiad drwy Heddlu Glannau Mersi.

“Roedd Daniel yn neidio tonnau gyda’i frawd mawr, a geisiodd ei achub, ond roedd y cerrynt yn rhy gryf.

“Mae Daniel yn fab, brawd, cefnder, nai ac ŵyr cariadus.

“Mae’r teulu i gyd wedi’u dryllio, ac rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n cael preifatrwydd ar hyn o bryd. Diolch."

Mae teulu’r bachgen yn cael cymorth gan swyddogion arbennig Heddlu Glannau Mersi.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Waterloo, Glannau Mersi, tua 19:00 ddydd Sul 30 Mehefin, wedi adroddiadau bod y bachgen yn ei arddegau wedi mynd ar goll wrth nofio yn yr afon ger tŵr radar ar Draeth Crosby, pan oedd gyda grŵp o ffrindiau.

Roedd brawd a ffrindiau Daniel wedi dod allan o’r afon ond cawsant eu gwahanu ac nid yw wedi cael ei weld ers hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.