Newyddion S4C

Carcharu dyn am 21 mlynedd am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant

Gavin Corcoran

Mae dyn wedi’i garcharu am 21 mlynedd am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant, gyda rhai o'r troseddau hynny wedi digwydd yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. 

Fe gafodd Gavin Corcoran, 44 oed, ei gyhuddo o droseddau rhyw yn 2021, ond fe gafodd ei gadw yn y ddalfa am sawl blwyddyn wedi iddo beidio ag ymddangos yn ei achos llys yn ddiweddarach y flwyddyn honno. 

Yn 2020, fe aeth merch 14 oed at yr heddlu ac fe gafodd Mr Cocoran ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol arni pan roedd hi’n 10 oed.

Cafodd ei gyhuddo o droseddau rhyw pellach wedi i ddwy fenyw ddweud iddo ymosod arnyn nhw sawl gwaith pan yr oedden nhw’n ferched. 

Cyn symud i Fanceinion, roedd Gavin Corcoran yn arfer byw yn Nhreforys, Abertawe.

Yn 2022, fe aeth pedwerydd person at yr heddlu ym Manceinion gan ddweud fod Gavin Corcoran wedi ymosod yn rhywiol arni. Cafodd ei gyhuddo o ddwy drosedd bellach mewn cyswllt â hynny.

Fis Mai 2024, cafodd Gavin Corcoran ei ddyfarnu'n euog o bob un o’r wyth cyhuddiad yn ei erbyn yn ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn plant. 

Ddydd Llun, cafodd ddedfryd o garchar am 21 mlynedd ac mi fydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis o Heddlu De Cymru fod Mr Corcoran yn berson “peryglus” sydd wedi achosi llawer o niwed.

Dywedodd ei fod wedi bod yn cam-drin plant dros gyfnod o ddau ddegawd, rhwng 1997 a 2018. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.