Heddlu yn ceisio dychwelyd gweddillion 160 o bobl wedi ymchwiliad i ymgymerwyr angladdau
Mae’r heddlu wedi cysylltu gyda dros 160 o deuluoedd er mwyn dychwelyd llwch pobl oedd yn cael eu cadw gan fusnes ymgymerwyr angladdau.
Mae Heddlu Glannau Humber nawr wedi cadarnhau eu bod wedi llwyddo i adnabod llwch 163 o wahanol bobl oedd yn cael eu cadw yn Legacy Independent Funeral Directors yn Hull, ac yn ymdrechu i ddychwelyd eu gweddillion i’w teuluoedd.
Fis Mawrth, cafodd dyn 46 oed a dynes 23 oed eu harestio mewn cysylltiad ag ymchwiliad i’r busnes ymgymerwyr angladdau, wedi adroddiadau o “bryder am ofal y meirw”.
Cafwyd eu harestio ar amheuaeth o atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus, twyll trwy gynrychiolaeth ffug a thwyll trwy gamddefnyddio swydd.
Daw hynny wedi i 34 o gyrff gael eu symud gan yr heddlu o safle Legacy Independent Funeral Directors yn Hull.
Dywedodd y Dirprwy Prif Gwnstabl Thom McLoughlin: “Dros y pythefnos diwethaf, mae fy swyddogion wedi cysylltu â theuluoedd sydd ynghlwm â’r ymchwiliad.
“Mae hyn wedi bod i roi diweddariad iddyn nhw ynglŷn â gweddillion sydd wedi eu canfod ac i drefnu cyfarfodydd gyda nhw, i gynnig cefnogaeth ac i drafod yn fanwl yr hyn sydd wedi digwydd ar yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.”