Rishi Sunak: Fydda i dal yn Brif Weinidog ddydd Gwener
Mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd dal yn Brif Weinidog ar ôl i'r pleidleisiau i gyd gael eu cyfri' fore Gwener.
Dywedodd arweinydd y blaid Geidwadol ei fod yn ffyddiog y bydd y Ceidwadwyr yn fuddugol yn yr Etholiad Cyffredinol ddydd Iau er gwaethaf arolygon barn sy’n awgrymu mwyafrif i’r Blaid Lafur yn San Steffan.
“Rydw i’n brwydro yn galed iawn a dw i’n credu bod pobl yn dechrau deffro i berygl gwirioneddol llywodraeth Lafur,” meddai wrth raglen Sunday With Laura Kuenssberg.
“Mae (y DU) yn le gwell i fyw nag yr oedd yn 2010.
“Wrth gwrs fy mod yn deall bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i bawb”.
Dywedodd fod y pandemig a’r rhyfel yn Wcráin wedi codi biliau ynni ond gan fynnu “rydyn ni bellach ar y trywydd iawn”.
‘Poen’
Dywedodd Llafur fod y sylwadau’n “gywilyddus” a bod y Prif Weinidog yn “anwybyddu pryderon pobol gyffredin”.
Dywedodd yr aelod o gabinet yr wrthblaid Jonathan Ashworth: “Does gan Rishi Sunak ddim syniad am ei record ei hun.
“Mae prisiau ar i fyny yn y siopau, rhestrau aros y GIG wedi cynyddu, ac mae morgeisi wedi codi i’r entrychion.
“Dyw e jyst ddim yn deall y boen mae’r Ceidwadwyr wedi’i achosi i bleidleiswyr dros y 14 mlynedd diwethaf.
“Mae gan y cyhoedd gyfle am newid, ond dim ond gyda phleidlais i Lafur ar 4 Gorffennaf y bydd y newid hwnnw yn digwydd.”