Newyddion S4C

‘Y peth gorau dwi ‘di ‘neud’: Cyn chwaraewr rygbi'n ‘derbyn’ ei anabledd drwy ddod yn bara-athletwr

‘Y peth gorau dwi ‘di ‘neud’: Cyn chwaraewr rygbi'n ‘derbyn’ ei anabledd drwy ddod yn bara-athletwr

Mae cyn chwaraewr rygbi o’r Rhondda a gollodd ran o’i benglog wedi iddo ddioddef ymosodiad wedi dweud mai penderfynu cystadlu fel para-athletwr oedd y “peth gorau” y mae erioed wedi ei wneud.

Fe ddioddefodd Adam Harcombe, 30 oed, ymosodiad yn 2020 wedi iddo gynnig cerdded gyda'i ffrind Lucy adref yn dilyn noson allan. 

Fe wnaeth dau ddyn nad oedd yn ei adnabod ymosod arno gan ei daro gyda bat metal gan achosi anafiadau difrifol iddo.

Roedd Adam mewn coma am gyfnod wedi'r ymosodiad. 

“’Nath un ohonyn nhw fwrw fi nes o’n i’n anymwybodol a pharhau i’m bwrw i, a 10 diwrnod yn ddiweddarach ‘nes i ddeffro yn yr ysbyty,” esboniodd wrth Newyddion S4C. 

Mae’r blynyddoedd wedi’r ymosodiad wedi bod yn “heriol iawn” i’r gŵr o Drelaw yn Nhonypandy – yn gorfforol ac yn feddyliol, meddai. 

“Ro’n i’n treulio fy amser jyst yn breuddwydio am allu cerdded i’r toiled eto,” meddai. 

Doedd y penderfyniad i gystadlu fel para-athletwr ddim yn un hawdd iddo, ac yn dilyn cyfnod llwyddiannus fel chwaraewr rygbi roedd Mr Harcombe yn cael trafferth derbyn ei anabledd. 

Ond ag yntau bellach yn aelod o Glwb Athletau’r Rhondda, mae wedi ennill dwy fedal arian am daflu pwysau ym Mhencampwriaethau Para-Athletau Cymru – gan gynnwys ei fuddugoliaeth ddiwethaf yn gynharach y mis hwn. 

Image
Tatw Adam Harcombe
Mae Adam Harcombe yn falch o gystadlu eto ac mae wedi cael tatŵ er mwyn dangos ei ddiolch i Glwb Athletau'r Rhondda

'Y peth gorau dwi 'di 'neud'

Wedi iddo dreulio cyfnod yn dioddef ag iselder yn dilyn yr ymosodiad, mae cystadlu fel para-athletwr wedi helpu iddo deimlo "fe fo ei hun” unwaith eto. 

“I ddechrau o’n i’n meddwl, ‘Sut y mae hyn wedi digwydd i fi? Chwaraewr rygbi’r bencampwriaeth sydd bellach yn anabl?’

“Ond penderfynais gystadlu, a dyna oedd y peth gorau dwi wedi  ei wneud.” 

Fe ddechreuodd Mr Harcombe hyfforddi i daflu pwysau ar ddiwedd 2022, wedi iddo gael sawl llawdriniaeth. 

Roedd ei fuddugoliaeth gyntaf ym Mhencampwriaethau Para-Athletau Cymru yn hynod o emosiynol iddo a’i berthnasau agosaf. 

“Rwy’n cofio bod ar y ffôn i Nain yn crio yn hollol afreolus, ond roedden nhw’n ddagrau o hapusrwydd. 

“O’n i methu coelio fy mod i wedi cael gwybod ar un adeg na fyddai modd i fi gerdded yr un peth eto, i bellach fod yn bara-athletwr ym mhencampwriaethau Cymru.”

Image
Adam Harcombe
Adam wedi ei fuddugoliaeth ddiweddar

'Ysbrydoliaeth'

Yn ôl un o aelodau Clwb Athletau’r Rhondda, mae Mr Harcombe yn “ysbrydoliaeth enfawr” i’r rhai o’i gwmpas. 

Mae gan y clwb athletau aelodau o bob oedran ac abledd, ac mae Adam Harcombe wedi helpu pobl sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg iddo'i hun i ailgydio mewn cymryd rhan mewn chwaraeon. 

Yn wreiddiol o Donypandy, mae Meagan Elliot, 28 oed, wedi bod yn aelod o’r clwb athletau ers iddi fod yn 11 oed, ac mae wedi bod yn cystadlu yn taflu pwysau ers nifer o flynyddoedd. 

Mae Ms Elliot wedi bod yn rhan o’r tîm sydd wedi helpu Adam Harcombe gyda’i hyfforddiant wrth iddo ddysgu’r gamp o daflu pwysau – a hithau wedi ei “weld e trwy’r siwrne o ddod yn bara-athletwr."

“Mae wedi dod â phobl sydd wedi bod trwy bethau tebyg i’r clwb ac maen nhw ‘di dechrau ‘neud chwaraeon eto. Wrth iddyn nhw gweld fe yn torri trwy bob hurdle ma’ fe yn, ma’ fe’n ysbrydoli nhw,” 

“Ma’ fe’n dedicated iawn a mae wastad moyn ‘neud yn well. Mae’n ‘neud yn rili gwd job a ‘dyn ni gyd yn browd iawn ohono fe.”

Image
Meagan Elliot
Meagan Elliot

'Helpu'

Ac mae’r para-athletwr yn benderfynol o helpu pobl y tu allan i’r byd chwaraeon hefyd, ac mae wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gwirfoddoli mewn uned arbenigol Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble y cafodd ei lawdriniaeth. 

Penderfynodd ddychwelyd i’r uned er mwyn cadw cwmni i bobl sydd wedi mynd trwy sefyllfa debyg iddo. 

“’Nes i feddwl os alla’i mynd yn ôl ac eistedd gyda rhywun sydd wedi mynd trwy rywbeth tebyg i’r hyn wnes i ddioddef, neu unrhyw anaf sydd wedi newid eu bywyd, petai iddyn nhw glywed fy stori, efallai y byddai’n gwthio nhw ymlaen.

“Os oeddwn i’n gallu cadw cwmni i fy hunan adeg hynny – fel ydwyf nawr – efallai fyswn i ‘di bod yn bara-athletwr hyd yn oed yn gynt.” 

Image
Adam Harcombe
Adam Harcombe yn gwirfoddoli

Dywedodd Helena Robertson Reid, sy’n gyfrifol am gynnal gwasanaethau gwirfoddoli er lles cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ei fod yn cymryd “person arbennig i wirfoddoli mewn uned ble’r oeddwn nhw yn glaf ei hunain”.

“Fe allai cleifion deimlo’n rhwystredig, unig a llawn ofn yn ystod eu taith at wella, ond mae Adam wedi dod â phositifrwydd i’w rôl, gan ddefnyddio ei brofiad personol ef i gefnogi cleifion sydd yn delio â phryderon a heriau corfforol tebyg iddo ef."

Yn llawn “trugaredd” a “dewrder,” mae Mr Harcombe wedi dod â “goleuni” i’r rheiny sydd ei angen, meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.