Newyddion S4C

Galw am wirfoddolwyr i chwilio o'r newydd am Jay Slater ar Tenerife

Jay Slater

Mae'r heddlu yn Tenerife wedi galw am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn ymdrech o'r newydd i chwilio am y dyn ifanc o Loegr sydd ar goll ar yr ynys.

Roedd Jay Slater, o Oswaldtwistle yn Sir Gaerhirfryn wedi teithio i’r ynys ar gyfer gŵyl gerddoriaeth ac ar ei wyliau cyntaf heb ei rieni.

Nid oes unrhyw un wedi clywed ganddo ers iddo ffonio ffrind toc cyn 09:00 ar ddydd Llun 17 Mehefin, yn dweud ei fod ar goll a bod angen dŵr arno.

Dywedodd Gwarchodlu Sifil Sbaen mewn datganiad y byddai’r ymdrech newydd ac eang o chwilio amdano’n cychwyn am 09:00 amser lleol ddydd Sadwrn ym mhentref Masca, ger y lleoliad diwethaf y gwelwyd Jay ynddo.

Bydd ffyrdd, llwybrau a cheunentydd o amgylch yr ardal yn cael eu harchwilio medd yr heddlu.

Anghysbell

Fe welwyd Mr Slater ddiwethaf ar lwybr ar dir mynyddig ym mharc cenedlaethol Rural de Teno.

Mae ffrindiau a theulu Mr Slater wedi dweud ei fod wedi gadael y grŵp y bu'n teithio gyda nhw yn gynharach yn nhref Playa de las Americas yn ne’r ynys.

Ar ôl gadael gŵyl gerddoriaeth NRG yng nghlwb nos Papagayo, aeth i mewn i gar gyda dau ddyn roedd wedi eu cyfarfod i yrru i'r parc cenedlaethol yng ngogledd-orllewin Tenerife.

Y bore canlynol fe'i gwelwyd yn gofyn am amseroedd bws o'r pentref anghysbell, cyn iddo ddechrau cerdded i'r cyfeiriad anghywir oedd yn ei arwain i ffwrdd o Playa de las Americas.

Mae ei rieni wedi teithio i'r ynys yn ystod y dyddiau diwethaf er mwyn cynorthwyo gyda'r ymdrech i ddod o hyd iddo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.