Newyddion S4C

Honiadau betio: Craig Williams ‘wedi ei atal’ meddai Rishi Sunak

Craig Williams a Rishi Sunak

Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yn un o etholaethau allweddol y blaid yng Nghymru “wedi ei atal” gan y blaid am y tro yn sgil y sgandal betio, meddai y Prif Weinidog Rishi Sunak.

Cadarnhaodd y Ceidwadwyr ddydd Mawrth nad ydyn nhw bellach yn cefnogi Craig Williams, cynorthwyydd seneddol Rishi Sunak, fel ymgeisydd yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr.

Yn ystod dadl deledu ar y BBC yn erbyn arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, nos Fercher dywedodd Rishi Sunak bod Craig Williams hefyd wedi ei atal gan y blaid.

Ychwanegodd y Prif Weinidog y byddai unrhyw sy’n torri’r rheolau yn wynebu "canlyniadau llawn" y gyfraith a chael eu "cicio allan" o'r blaid Geidwadol.

“Roedd yn bwysig i mi, o ystyried difrifoldeb a sensitifrwydd y materion dan sylw, ein bod ni’n ymdrin â nhw yn briodol, a dyna ydw i wedi'i wneud,” meddai.

“Fe wnaethon ni gael ymchwiliad mewnol annibynnol i’r hyn a ddigwyddodd. 

“Rydw i wedi gweithredu ac atal yr ymgeiswyr dan sylw, ac rydw i wedi bod yn gwbl glir y dylen nhw wynebu canlyniadau llawn y gyfraith.”

Image
Maldwyn a Glyndŵr

Fe fydd enw'r ymgeisydd ar y papur pleidleisio o hyd, gydag enwebiadau wedi cau ers ddechrau'r mis.

Daw wedi i Craig Williams gael gwybod ei fod dan ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo am osod bet ar amseru'r Etholiad Cyffredinol.

Fe wnaeth Craig Williams gyhoeddi datganiad ar X, Twitter gynt, ddydd Mawrth yn dweud ei fod wedi "gwneud camgymeriad nid cyflawni trosedd" a dweud ei fod yn "bwriadu clirio ei enw".

Mae rhai arolygon barn wedi awgrymu mai Maldwyn a Glyndŵr yw un o brif obeithion  y Ceidwadwyr o ennill sedd yng Nghymru yn yr etholiad yr wythnos nesaf.

Mae o leiaf pum Ceidwadwr dan ymchwiliad y Comisiwn Gamblo fel rhan o’i ymchwiliad i fetio ar amseru y bleidlais ar 4 Gorffennaf.

Mae Rishi Sunak hefyd wedi tynnu cefnogaeth y blaid i un ymgeisydd arall, sef Laura Saunders.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.