
'Anghofio sut i wenu': Realiti bywyd un person ifanc o fyw gydag awtistiaeth

Mae person ifanc sydd yn agored am ei phrofiad o fyw gydag awtistiaeth yn dweud ei bod yn wynebu nifer o heriau o fewn cymdeithas.
Wrth siarad ar y rhaglen ddogfen GRID, dywedodd Elin Angharad: “Mae’n teimlo fel bod y byd yma heb gael ei greu i rywun fel fi.”
Mae Elin, sy’n 20 mlwydd oed o Ruddlan yn Sir Ddinbych, hefyd yn byw gyda chyflwr o’r enw enseffalopathi myalgig (ME) neu syndrom blinder cronig.
Yn ôl Elin, mae’r cyfuniad o fyw gydag awtistiaeth a ME yn golygu ei bod hi fel arfer yn “treulio bron i 24 awr” yn ei gwely “gyda’r golau i ffwrdd.”
Mae nifer o’r heriau mae pobl fel Elin, yn eu hwynebu ar hyd eu bywydau yn rhai cymdeithasol.
“Pan o’n i’n tyfu fyny, dwi’n cofio pobl yn defnyddio slurs, a galw pobl awtistig yn hyll," meddai.
“A dwi’n gallu gweld eu hwynebau nhw’n newid pan dwi’n ymddwyn mewn ffordd sy’n wahanol i beth oedden nhw’n ei ddisgwyl.
“Oherwydd profiadau fel hyn, dyw lot o bobl awtistig ddim yn teimlo’n saff i fod eu hunain - a dyna beth sy’n gwneud inni fasgio.”
'Anghofio sut i wenu'
Mae masgio yn ddull ymdopi i sawl person awtistig, sy’n golygu eu bod nhw’n cuddio eu personoliaethau naturiol er mwyn cydymffurfio ag arferion cymdeithas.
“Dydw i byth ddim yn masgio, heblaw am pan dwi ar fy mhen fy hun,” meddai Elin.
Mae ymchwil yn awgrymu bod hyd at 94% o bobl awtistig wedi masgio neu’n debygol o fasgio yn ystod eu bywydau.
Dywedodd Elin: “Weithiau, pan dwi’n masgio gormod, mae’n teimlo fel dwi’n anghofio sut i wenu.”

“Dwi methu bod yn naturiol, ac weithiau, mae’n rhaid i fi wneud wyneb ffug sy’n teimlo fel rhywbeth allan o Wallace and Gromit.”
Mae nifer o bobl awtistig yn profi pethau synhwyraidd yn wahanol i bobl eraill. Oherwydd hyn, mae’r hyn sy’n gyfarwydd iawn i sawl person yn hynod o anodd i Elin.
“Os o’n i’n gweithio o 9 tan 5, byddwn i’n cael hunllefau synhwyraidd yn ddyddiol. Fyddwn i byth yn gallu cysgu, oherwydd mae lot o bobl awtistig yn cysgu oriau gwahanol."
Yn ôl y National Autism Society, 22% yn unig o oedolion awtistig sydd mewn rhyw fath o waith cyflogedig.
“Byddwn i methu byw heb fudd-daliadau,” meddai Elin.
“Dwi wedi trïo gwneud profiad gwaith mewn ychydig o lefydd. Mae wedi bod yn anodd oherwydd, mae yna ddisgwyl i chi wisgo dillad penodol.
“Dwi’n cael cymaint o symptomau lle dwi’n teimlo’n goslyd neu’n cael pinnau bach. Felly, pan dwi’n gwisgo dillad sy’n teimlo’r un peth, mae fel double anghywir.”
'Teimlo’n rhydd'
Ar y llaw arall, mae rhai o elfennau synhwyraidd bywyd yn gallu rhoi mwynhad i Elin, ac yn cynnig dihangfa iddi.
“Mae gwrando ar gerddoriaeth yn golygu fy mod i’n gallu teimlo rhyw fath o lawenydd synhwyraidd.
“Dwi’n teimlo’n rhydd pan mae gen i glustffonau ymlaen. Mae hi fel mynd i fyd gwahanol, a gadael beth sy’n fy mhoeni yn y byd yma.”
Mae Elin yn teimlo, er ein bod ni gyd yn wahanol, y dylem ymfalchïo yn yr hyn sy’n ein gwahaniaethu.
“Mae’n bwysig i dderbyn pwy ydym ni ac i dyfu gyda hynny, yn lle ei osgoi o,” meddai.
“Byd delfrydol i fi fyddai lle mae popeth yn teimlo’n feddal, dim gormod o olau na sŵn, a’r tymheredd yn teimlo’n debyg i sut mae’r haul yn teimlo ar dy wyneb yn y gaeaf - ddim yn rhy boeth, neu’n rhy oer. Jyst perffaith.
“Yn y byd yma, byddai pawb yn cael beth maen nhw ei angen, a phawb yn cael eu trin efo parch - teimlad o ryddid.”
Gallwch wylio'r rhaglen yn llawn ar YouTube Hansh.
Prif lun: GRID