Colli swyddi Tata yn golygu 'diwedd cyfnod' yn ne Cymru

26/06/2024
Tata Steel BBC Wales Investigates

Bydd cau ffwrnesi chwyth Tata ym Mhort Talbot yn golygu "diwedd cyfnod diwydiannol" yn ne Cymru.

Mae ymchwil newydd gan Yr Athro Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd i raglen BBC Wales Investigates: Town of Steel yn dangos y gallai'r economi'r dref golli hyd at £200m oherwydd diswyddiadau.

Mae'r athro wedi bod yn dilyn y diwydiant dur yng Nghymru am ddegawdau ac mae ei ymchwil i effaith colli swyddi gweithwyr Tata wedi canfod canlyniadau trawiadol.

"Rydym yn siarad am swyddi sydd yn talu 50% yn well na'r cyflog Cymreig cyfartalog," meddai wrth BBC Cymru.

"Pan mae hynny'n cael effaith ar siopau, tafarndai, tacsis a nifer o bethau eraill Port Talbot ac economïau eraill, mae'r sgil effaith yn fwy."

'£200m yn mynd o'r economi'

Mae ymchwil Yr Athro Jones yn dangos y gallai colli swyddi Tata arwain at ostyngiad o 10% yng nghyfanswm enillion y dref, sydd ar hyn o bryd yn £133 miliwn.

"Mae £200m y flwyddyn yn mynd o economi leol tan i'r bobl hynny ddarganfod swyddi newydd.

"Ond mae rhaid i chi gofio mai cyflogau awdurdod lleol Port Talbot yw'r ail neu drydydd uchaf ymhlith awdurdodau lleol Cymru.

"Ni fydd hynny'n wir bellach pan mae'r tua 2,000 o swyddi yn mynd. Felly'r cwestiwn yw 'beth fydd yn digwydd?'

"Yn yr un modd â streic y glowyr, roedd hynny yn ddiwedd cyfnod i'r cymoedd, mae hwn yn ddiwedd cyfnod i dde Cymru ddiwydiannol."

Ansicrwydd 

Un sydd yn wynebu colli ei swydd yw Owen Midwinter sydd yn 23 oed.

Ef yw'r drydedd genhedlaeth o'i deulu i weithio ym Mhort Talbot ond mae'r dyfodol yn ansicr. 

"Dwi'n hyfforddi i fod yn beiriannydd ar Ffwrnes rhif 4. Pan fydd y ddwy flynedd yn dod i ben, bydd gen i swydd llawn amser.

"Yn amlwg, gyda'r newyddion yma, dwi ddim yn siŵr beth fydd yn digwydd.

Ychwanegodd ei gariad, Cori, na fydden nhw yn gallu talu eu morgais os bydd yn colli ei swydd.

"Yn amlwg os ydy Owen yn colli ei swydd, mae bob dim yn risg, fel ein tŷ," meddai.

"Rydym ni eisiau dechrau teulu cyn bo hir, ond mae bob dim yn risg tan i ni wybod."

Sicrhau 'dyfodol' y busnes 

Mae Tata yn dweud eu bod yn symud i ffurf fwy amgylcheddol o gynhyrchu dur, a'u bod nhw'n colli £1m bob dydd ym Mhort Talbot.

Dywedodd Rajesh Nair, Prif Weithredwr Tata Steel UK wrth BBC Cymru bod angen gwneud y newid er mwyn sicrhau bod gan y diwydiant dur ddyfodol.

"Rydym yn colli arian yn sylweddol, ac nid oherwydd diffyg ymdrechion y bobol na’r swm o arian rydyn ni wedi bod yn ei wario.

"Mae oherwydd bod gennym ni set o asedau sydd ar ddiwedd eu hoes. Mae'n rhaid i ni weithredu nawr er mwyn gwneud yn siŵr bod yna fusnes yn bodoli yn y dyfodol agos.”

Llun: BBC Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.