Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru yn buddsoddi i wella technoleg AI yn Gymraeg

25/06/2024
AI Cymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r nod o ddysgu Cymraeg i dechnoleg cyfrifiadurol AI (Deallusrwydd artiffisial) fel rhan o bartneriaeth newydd.

Dywedodd y llywodraeth mae’r bwriad fydd cynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg.

Maen nhw wedi cyhoeddi partneriaeth ddata newydd gydag OpenAI i wella sut mae technoleg AI yn gweithio yn Gymraeg.

Bydd y bartneriaeth yn creu archifau data fydd yn agored i'r cyhoedd fel eu bod yn gallu cyfrannu i'r ymchwil, er mwyn gwella perfformiad ieithyddol AI.

Dywedodd Anna Makanju, Is-lywydd Materion Rhyngwladol OpenAI: "Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bartner gwych wrth greu set ddata agored ar gyfer hyfforddi modelau iaith. 

“Yn OpenAI, rydyn ni am i'n modelau ddeall cymaint o ieithoedd a diwylliannau â phosib, fel bod modd i gynifer o bobl â phosib eu defnyddio."

'Edrych ymlaen'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg Jeremy Miles y bydd yn “sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050”.

"Mae pob un ohonom yn defnyddio technoleg mewn un ffordd neu’i gilydd, ac yn gynyddol, rydyn ni’n gweld AI yn cael ei ddefnyddio mewn mwy o sefyllfaoedd. 

“Rwy’n edrych ymlaen i weld sut bydd y bartneriaeth ddata newydd gydag OpenAI yn arwain at wella sut mae technoleg AI yn gweithio yn Gymraeg.”

Yn y Senedd ddydd Mawrth bydd Jeremy Miles, yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg, gyda thechnoleg yn “llinyn arian” yn rhedeg ar draws bob un. 

Mae ei flaenoriaethau’n cynnwys cael pob disgybl i ddod i fedru siarad Cymraeg yn hyderus, cryfhau'r broydd Cymraeg yn economaidd a gwella'r cyfle i siarad Cymraeg ymhlith teuluoedd. meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.