Newyddion S4C

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Queensferry

25/06/2024
Queensferry

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Queensferry yn Sir y Fflint brynhawn dydd Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon toc wedi pedwar o'r gloch i ddigwyddiad rhwng cerbyd trwm a beic modur du ar gylchfan y B5129 ger Asda.

Er yr ymdrechion meddygol bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Mae'r teulu a'r crwner wedi cael gwybod ac mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am lygad dystion. 

   

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.