Dyn 25 oed wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol yn Llanelwedd

Dyn 25 oed wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol yn Llanelwedd

Mae dyn 25 oed wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol ar faes gwersylla ger safle'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i Fferm Penmaenau am tua 22:30 nos Sadwrn.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon, bu farw dyn 25 oed yn y lleoliad.

Mae’r heddlu yn trin y farwolaeth fel un “sydd heb ei hegluro”.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae tri dyn wedi’u harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ac yn parhau yn y ddalfa.

Fe fydd swyddogion yn bresennol yn yr ardal tra bod ymholiadau’r heddlu’n parhau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Steve Davies: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig, ac mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu’r dyn ifanc yn ystod yr amser anodd hwn.

“Hoffwn sicrhau’r cyhoedd mai digwyddiad ynysig yw hwn, ac mae’r farwolaeth yn cael ei thrin ar hyn o bryd fel un heb ei egluro.

“Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw risg barhaus i’r cyhoedd ehangach mewn cysylltiad â’r digwyddiad trist hwn.”

'Cydymdeimlad'

Daw'r newyddion ar ddechrau wythnos y Sioe Frenhinol yn y dref.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd perchnogion Fferm Penmaenau: "Gyda thristwch gallwn gadarnhau bod unigolyn, yn anffodus, wedi marw ddoe yn dilyn argyfwng meddygol ar y safle.

"Hoffai deulu Penmaenau estyn ein cydymdeimladau dwysaf gyda theulu, ffrindiau ac anwylion yr unigolyn yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.

"Hoffwn dawelu meddyliau'r bobl sydd yn gwersylla ac ymwelwyr mai argyfwng meddygol oedd hwn.

"Nid oedd ymosodiad neu ddigwyddiad treisgar ynghlwm â'r digwyddiad hwn. Rydym yn gweithio gyda'r heddlu mewn perthynas â'r digwyddiad.

"Mae gwersylla Fferm Penmaenau yn parhau ar agor fel arfer ar gyfer y Sioe Frenhinol 2o26. Lles a diogelwch pawb sydd ar y safle sydd yn parhau ein blaenoriaeth bennaf ac rydym yn parhau i redeg safle diogel gydag ein tîm diogelwch a staff ar gael pob awr."

Llun: Fferm Penmaenau (Google Maps)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.