O’r Mart i’r Maes: Diwedd emosiynol i daith gerdded o Fôn i Lanelwedd

O’r Mart i’r Maes: Diwedd emosiynol i daith gerdded o Fôn i Lanelwedd

Mae grŵp o bum cerddwr wedi cyrraedd Maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar ôl cerdded o Gaerwen, Ynys Môn, i godi arian i Ymchwil Canser Cymru.

Cyrhaeddodd y grŵp ger y cylch gwartheg am tua 17:30 ddydd Sul, lle cafon nhw eu croesawu gan gymeradwyaeth fawr gan y rhai oedd wedi ymgynnull i’w gweld yn gorffen yr her.

Er mai pump wnaeth gerdded y daith gyfan, ymunodd nifer o bobl â nhw ar wahanol rannau o’r daith.

Roedd y daith, dan yr enw O’r Mart i’r Maes, wedi mynd â’r cerddwyr drwy Fryncir, Dolgellau, Llanidloes a Rhaeadr cyn iddynt gyrraedd Llanelwedd.

Mae mwy nag £20,000 wedi’i godi ar y dudalen JustGiving hyd yma.

Ond mae’r trefnwyr yn credu y gallai’r cyfanswm fod yn agos at £50,000 ar ôl cynnwys rhoddion arian parod, arian a gasglwyd mewn marchnadoedd a digwyddiadau eraill.

Dywedodd Rhys Williams, un o’r cerddwyr, fod y gefnogaeth ar hyd y daith wedi bod yn “wefreiddiol”.

“Mae hwn wedi gweithio’n wych ac wedi dod â lot o bobl at ei gilydd,” meddai.

“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael ar draws Cymru wedi bod yn wefreiddiol, i ddweud y gwir.

“Mae’n dangos sut mae’r gymuned yn gallu dod at ei gilydd a bod mor gefnogol i achos mor deilwng.”

Dywedodd fod pobl wedi darparu bwyd i’r cerddwyr, wedi cerdded gyda nhw ar rannau o’r daith ac wedi’u cefnogi wrth iddynt fynd drwy wahanol gymunedau.

Wrth sôn am gyrraedd Maes y Sioe, dywedodd: “Roedd o’n teimlo’n emosiynol, i ddweud y gwir. Mae’n gwneud popeth yn werth chweil.”

Dywedodd Meirion Pugh, un o drefnwyr yr her, fod y syniad wedi dod ar ôl iddo gymryd rhan mewn heriau codi arian eraill yn y gorffennol.

Dywedodd fod yr ymgyrch wedi dangos pa mor hael oedd y gymuned amaethyddol a pha mor eang oedd effaith canser.

“Mae’n effeithio ar rywun ym mhob rhan o’r wlad,” meddai.

“Mae pawb yn gwybod am rywun agos sydd wedi dod ar draws canser.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.