Llys yn clywed i'r cyn-AS Llafur Gwynoro Jones ‘gyffwrdd pen ôl dynes ar drên heb ei chaniatâd'
Llys yn clywed i'r cyn-AS Llafur Gwynoro Jones ‘gyffwrdd pen ôl dynes ar drên heb ei chaniatâd'
Mae llys wedi clywed bod y cyn-Aelod Seneddol Llafur Gwynoro Jones wedi “cyffwrdd â phen-ôl” dynes ar drên heb ei chaniatâd.
Fe welodd y rheithgor ddau fideo ar wahân o gamerau cylch cyfyng lle’r oedd Mr Jones, sydd yn 83 oed, yn ymddangos fel petai wedi cyffwrdd â’r ddynes ar ei phen-ôl, a hefyd wedi ei chyffwrdd ar ei braich ar drên Great Western rhwng Llundain ac Abertawe.
Roedd Mr Jones yn cynrychioli etholaeth Caerfyrddin yn Senedd San Steffan rhwng 1970 a 1974.
Mae’r cyn-AS o ardal Gorseinon yn Abertawe yn wynebu cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar 16 Gorffennaf 2024.
Mae’n gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn, ac yn dweud y gallai fod wedi ei chyfffwrdd yn ddamweiniol.
'Anghyfforddus'
Clywodd y llys fod Mr Jones yn eistedd wrth ddrws coets dosbarth cyntaf ar y trên gyda dwy botel fach o win a brynodd ar y trên, pan gerddodd y ddynes heibio.
Roedd y sgwrs gyntaf rhwng y ddau ar y trên "heb unrhyw broblem" meddai Georgia Donohue ar ran yr erlyniad.
Mewn digwyddiad yn ddiweddarach a gafodd ei recordio gan gamera cylch cyfyng, roedd y cyn-AS yn gafael ym mraich y ddynes a’i chyffwrdd ar ei braich, gan symud ei fysedd i fyny ac i lawr, meddai'r erlyniad.
Dywedodd Miss Donohue, fod y ddynes yn “anghyfforddus” ar ôl y digwyddiad.
Clywodd y llys fod Mr Jones yn ddiweddarach wedi gofyn i’r ddynes gwestiynau personol fel “oes gen ti gariad?”, “wyt ti’n briod?”, a “wyt ti’n aros yn Abertawe?”
Dywedodd hefyd ei bod "yn brydferth" meddai Miss Donohue.
Mewn ail ddigwyddiad, clywodd y llys i'r diffynnydd symud i eistedd mewn sedd arall yn y goets.
Roedd fideo o gamera cylch cyfyng yn dangos bod Mr Jones yn ymddangos fel petai wedi cyffwrdd â’r ddynes ar ei phen-ôl gyda'i law.
Dywedodd Miss Donohue fod Mr Jones wedi gosod ei law allan yn fwriadol fel bod y ddynes yn cerdded yn ôl i mewn iddi.
Ychwanegodd fod y ddynes wedi sylweddoli bod ganddi glais bach ar ei phen-ôl ar ôl y digwyddiad.
'Syfrdanu'
Wrth gael ei holi gan Miss Donohue, dywedodd y ddynes ei bod hi’n teimlo’n “lletchwith ac yn anghyfforddus” pan oedd y diffynnydd wedi gafael yn ei braich.
"Roedd y digwyddiad wedi aros gyda mi ar gyfer gweddill y daith," meddai.
Wrth ateb cwestiwn gan yr erlyniad am sut yr oedd hi'n teimlo ar ôl iddi ymddangos fod Gwynoro Jones wedi cyffwrdd ei phen ôl, dywedodd "roeddwn i wedi syfrdanu".
"Doedd e ddim yn gyffyrddiad ysgafn, roedd e'n galed ond dim yn galed iawn," ychwanegodd.
Wrth ei chroesholi, dywedodd Kate Williams ar ran y diffynnydd, bod Mr Jones wedi ymddiheuro iddi "ar ôl cyffwrdd ei phen ôl ar ddamwain."
Dywedodd y ddynes ei fod wedi "mwmblo rhywbeth" yn ôl iddi.
Gofynnodd Kate Williams a oedd hi'n "gwneud môr a mynydd" o'r digwyddiad.
"Na. Doedd e ddim yn ddamwain," meddai.
Clywodd y rheithgor fod Gwynoro Jones wedi dweud wrth yr heddlu mewn cyfweliad bedwar mis ar ôl y digwyddiad ei fod wedi sgwrsio â’r ddynes ond gwadodd y drosedd.
Dywedodd Mr Jones "nad oedd yn cofio'r" ddynes ond ei fod yn berson oedd yn hoff o sgwrsio â phobl eraill.
"Dwi'n 82, rydym yn fwy siaradus yn ein hoedran ni, gofyn o le mae rhywun yn dod, wyt ti'n briod... mae'n rhywbeth nodweddiadol Gymreig," meddai ar y pryd.
Ychwanegodd ei fod wedi gafael yn ei braich er mwyn dal ei sylw ac nad oedd wedi cyffwrdd ei phen ôl, cyn nodi "ydi hi'n honni hynny?"
Mae’r achos yn parhau.