Cynnydd mewn tanau gwyllt yn 'bryder difrifol' wrth lansio pentref defaid ar faes y Sioe Frenhinol
Mae'r cynnydd mewn tanau gwyllt yn "bryder difrifol" i ffermwyr defaid wrth i bentref defaid newydd gael ei lansio ar faes y Sioe Frenhinol.
Eleni fe fydd 'Cynefin' yn "dathlu pwysigrwydd diwydiant" defaid Cymru ac yn "addysgu'r cyhoedd" am y diwydiant.
Fe fydd y gwasanaeth tân hefyd yn bresennol i drafod sut mae tanau gwyllt yn effeithio ar ddefaid.
Roedd 2,382 o danau gwyllt rhwng mis Ebrill a Medi'r llynedd yn ôl ffigyrau gan Lywodraeth Cymru, sef tair gwaith yn fwy na'r un cyfnod yn 2024.
Dywedodd Alwyn Rees, Is-gadeirydd y Cyngor Sioe Frenhinol Cymru wrth Newyddion S4C fod y tanau'n peri pryder i ffermwyr gan eu bod nhw'n llosgi tir pori i'r defaid, ffensys a lloches defaid.
“Ma’r effaith mae tanbori yn cael ar y mynyddoedd a gormod o lysdyfiant a ballu yn arwain at danau gwyllt, sydd mor berthnasol i ni heddiw," meddai.
“Ma’r tanau yma’n bryder aruthrol a dweud y gwir achos mae lawer o’r mynydddir ‘ma sydd ddim yn cadw defaid dim bellach, neu ychydig iawn o defaid.
“Felly mae lysdyfiant yna dros 10, 15 mlynedd - dwi’n gwybod bod cynhesiant byd-eang yn rhanol gyfrifol - ond hefyd mae be’ sy' ‘di digwydd i’r mynydddir yn neud hi’n llawer iawn gwaeth oherwydd y llysdyfiant sy’n gorwedd yna ers blynyddoedd.
“Mae’n dod yn nes at bywoliaeth dyn ac anifeiliaid, a pan mae tân gwyllt does na dim ffordd o derfyn arno fo."
Yn ddiweddar mae sawl tân gwyllt wedi llosgi yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghaergybi, Bwlch Sychant yng Nghonwy ac yn Llanbedr ger Harlech.
Mae Alwyn Rees yn credu bod sawl ffactor yn arwain tuag at y tanau, ac un elfen sydd yn rhannol gyfrifol meddai yw cyfyngiadau ar bori tir.
Mae pori tir yn cael ei ganiatáu ar fynyddoedd Cymru, ond mae mesurau amgylcheddol mewn lle sydd yn cyfyngu faint o'r tir mae modd pori.
Mae'r rhain yn cynnwys tir sydd wedi'u diogelu a thir lle mae'r perchennog yn derbyn taliadau cyhoeddus.
Hefyd mae cyfyngiadau ar losgi bwriadol dan reolaeth, gyda chyfnodau penodol i ffermwyr allu llosgi eu tir dan amodau sydd yn cael eu rheoli.
“Ynglŷn a’r llysdyfiant, ma’ ‘na lawer o systemau amgylcheddol wedi bod dros y blynyddoedd sydd yn golygu bod defaid ddim yn pori ar fynyddoedd," meddai Mr Rees.
“Felly mae ‘na gyfrifoldeb, achos oedd ffermwyr yn naturiol yn llosgi rhywfaint o fynyddoedd er lles cadw anifeiliaid a dyn yn ddiogel, a dyw rheiny bellach ddim yn bod.
“Mae llawer o bobl ‘wan yn mynd allan i gefn gwlad ac mae’n llawer fwy accessible, ac mae hynny’n broblem.
“Mae twristiaeth yn elfen hanfodol ond mae’n creu problema’ hefyd."
Wrth i'r pentref defaid lansio ddydd Llun, mae Alwyn Rees yn gobeithio bydd y cyhoedd yn cael eu haddysgu am danau gwyllt a sut maen nhw effeithio ar dda byw.
Hefyd mae'n gobeithio bydd gwerthfawrogiad i'r diwydiant a'r gwaith mae bugeiliaid yn eu gwneud.
“Llwyddiant i ni fysa bod y cyhoedd yn cael rhyywfaint o ddealltwriaeth gwell o be mae nid ond defaid, ond bugeiliaid a threftadaeth hefyd sydd wedi ei basio ‘mlaen hefyd.
"Bod y dealltwriaeth o be’ ma’r diwydiant defaid wedi neud ac o bosib yn gallu gwneud i’r wlad yn y dyfodol."